YouVersion Logo
Search Icon

Nehemeia 13

13
Neilltuo Pawb o Waed Cymysg
1Y diwrnod hwnnw, yn ystod y darlleniad o lyfr Moses i'r bobl, cafwyd ei bod yn ysgrifenedig nad oedd Ammoniaid na Moabiaid byth i ddod i mewn i gynulleidfa Duw, 2am na ddaethant i gyfarfod â'r Israeliaid â bwyd a diod, eithr yn hytrach gyflogi Balaam yn eu herbyn, i'w melltithio; ond fe drodd ein Duw y felltith yn fendith. 3A phan glywsant y gyfraith gwahanwyd oddi wrth Israel bawb o waed cymysg.
Diwygiadau Nehemeia
4Ond cyn hyn yr oedd Eliasib yr offeiriad wedi ei wneud yn gyfrifol am ystafelloedd tŷ ein Duw. 5Yr oedd ef yn perthyn i Tobeia, ac wedi rhoi iddo ystafell fawr lle gynt y cedwid y bwydoffrwm a'r thus, y llestri a degwm yr ŷd, y gwin a'r olew oedd yn ddyledus i'r Lefiaid ac i'r cantorion a'r porthorion, a'r cyfraniad ar gyfer yr offeiriaid. 6Yr adeg honno nid oeddwn i yn Jerwsalem, oherwydd yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artaxerxes brenin Babilon yr oeddwn wedi mynd at y brenin. Ychydig yn ddiweddarach gofynnais ei ganiatâd i ddychwelyd. 7Pan gyrhaeddais Jerwsalem gwelais y camwri a wnaeth Eliasib ynglŷn â Tobeia trwy roi ystafell iddo yng nghynteddoedd tŷ Dduw. 8Cythruddodd hyn fi'n ddirfawr, a theflais ddodrefn Tobeia i gyd allan o'r ystafell; 9a gorchmynnais iddynt buro'r ystafelloedd, a rhoddais lestri tŷ Dduw a'r bwydoffrwm a'r thus yn ôl yno.
10Darganfûm hefyd nad oedd y Lefiaid wedi derbyn eu cyfrannau, a'u bod hwy a'r cantorion oedd yn gyfrifol am y gwasanaethau wedi mynd i ffwrdd i'w ffermydd. 11Yna ceryddais y swyddogion a dweud, “Pam y cafodd tŷ Dduw ei esgeuluso?” Ac fe'u cesglais at ei gilydd, a'u gosod yn ôl wrth eu gwaith. 12Yna daeth holl Jwda â degwm yr ŷd a'r gwin a'r olew i'r trysordai. 13Ac etholais yn drysoryddion Selemeia yr offeiriad, Sadoc yr ysgrifennydd, a Pedaia y Lefiad, a Hanan fab Saccur, fab Metaneia i'w cynorthwyo, oherwydd fe'u cyfrifid yn rhai dibynadwy, a'u dyletswydd hwy oedd rhannu i'w brodyr. 14Cofia fi, fy Nuw, am hyn, a phaid â dileu'r daioni a wneuthum i dŷ fy Nuw a'i wasanaethau.
15Yn y dyddiau hynny gwelais ddynion yn Jwda yn sathru gwinwryf ar y Saboth, ac yn pentyrru grawn, ac yn llwytho asynnod â gwin, grawnwin, ffigys, a phob math o feichiau, ac yn eu cario i Jerwsalem ar y dydd Saboth. Rhybuddiais hwy am werthu bwyd ar y dydd hwn. 16Daeth y Tyriaid oedd yn byw yn y ddinas â physgod a phob math o farsiandïaeth i'w gwerthu ar y Saboth i bobl Jwda yn Jerwsalem. 17Felly ceryddais bendefigion Jwda a dweud wrthynt, “Beth yw'r drwg hwn yr ydych yn ei wneud, yn halogi'r dydd Saboth? 18Onid dyma a wnaeth eich hynafiaid fel y daeth ein Duw â'r holl ddrwg hwn arnom ni ac ar y ddinas hon? Yr ydych yn dod â mwy eto o lid ar Israel trwy halogi'r Saboth.”
19Yna, cyn dechrau'r Saboth, fel yr oedd yn nosi dros byrth Jerwsalem, gorchmynnais gau'r drysau, ac nad oedd neb i'w hagor cyn diwedd y Saboth. A gosodais rai o'm llanciau wrth y pyrth fel na châi dim ei gario i mewn ar y dydd Saboth. 20Unwaith neu ddwy gwersyllodd y masnachwyr a gwerthwyr pob math o nwyddau y tu allan i Jerwsalem, 21ond rhybuddiais hwy a dweud, “Pam yr ydych yn gwersyllu yn ymyl y mur? Os gwnewch hyn eto fe'ch cosbaf chwi.” O'r dydd hwnnw ymlaen ni ddaethant ar y Saboth. 22A gorchmynnais i'r Lefiaid eu puro eu hunain a dod i wylio'r pyrth, er mwyn cadw'r dydd Saboth yn sanctaidd. Am hyn hefyd cofia fi, fy Nuw, ac arbed fi yn dy drugaredd fawr.
23Yn y dyddiau hynny hefyd gwelais fod rhai Iddewon wedi priodi merched o Asdod, Ammon a Moab. 24Yr oedd hanner eu plant yn siarad iaith Asdod, heb fedru siarad iaith yr Iddewon, a'r lleill yn siarad tafodiaith gymysg. 25Ceryddais hwy a'u melltithio, a tharo rhai ohonynt a thynnu eu gwallt; gwneuthum iddynt gymryd llw yn enw Duw i beidio â rhoi eu merched i feibion yr estron, na chymryd eu merched hwy i'w meibion nac iddynt eu hunain. 26“Onid o achos merched fel hyn,” meddwn, “y pechodd Solomon brenin Israel? Ni fu brenin tebyg iddo ymysg yr holl genhedloedd, yn un yr oedd Duw yn ei garu, ac wedi ei wneud ganddo yn frenin ar Israel gyfan; eto fe wnaeth merched estron iddo yntau bechu. 27A ddylem ni felly wrando arnoch chwi i wneud y drwg mawr hwn, a throseddu yn erbyn ein Duw trwy briodi merched estron?”
28Yr oedd un o feibion Joiada, mab Eliasib yr archoffeiriad, yn fab-yng-nghyfraith i Sanbalat yr Horoniad; am hynny gyrrais ef o'm gŵydd. 29Cofia hwy, O fy Nuw, am iddynt halogi'r offeiriadaeth a chyfamod yr offeiriaid a'r Lefiaid.
30Yna glanheais hwy oddi wrth bopeth estron, a threfnais ddyletswyddau i'r offeiriaid a'r Lefiaid, pob un yn ei swydd. 31Gwneuthum ddarpariaeth hefyd ar gyfer coed yr offrwm ar wyliau penodedig, ac ar gyfer y blaenffrwyth. Cofia fi, fy Nuw, er daioni.

Currently Selected:

Nehemeia 13: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy