YouVersion Logo
Search Icon

Nahum 2

2
Cwymp Ninefe
1Daeth dinistrydd i fyny yn dy erbyn;
diogela'r amddiffynfa, gwylia'r ffordd,
rhwyma dy wregys, a chasgla dy nerth ynghyd.
2Y mae'r ARGLWYDD yn adfer gogoniant Jacob,
a gogoniant Israel yr un modd,
er i'r anrheithwyr eu difetha
a dinoethi eu canghennau.
3Y mae tarian ei ryfelwyr yn goch,
a'r milwyr mewn ysgarlad,
a'i gerbydau yn eu rhengoedd
yn fflachio fel tân,
a'r gwŷr meirch#2:3 Felly Groeg a Syrieg. Hebraeg, pinwydd. yn prancio.
4Rhuthra'r cerbydau trwy'r strydoedd,
a gweu trwy'i gilydd yn y mannau agored;
fflachiant fel ffaglau,
gwibiant fel mellt.
5Gelwir y glewion i'r frwydr,
baglant hwythau wrth ddod;
brysiant at y mur,
a pharatoir yr amddiffyn.
6Agorir llifddorau'r afonydd,
ac y mae'r plas mewn dychryn;
7dygir y frenhines#2:7 Hebraeg yn ansicr. ymaith i gaethglud,
a'i morynion yn galaru,
yn cwyno fel colomennod
ac yn curo dwyfron.
8Y mae Ninefe fel llyn
a'i ddyfroedd yn diflannu.
“Aros! Aros!” meddant, ond nid yw neb yn troi'n ôl.
9Ysbeiliwch yr arian! Ysbeiliwch yr aur!
Nid oes terfyn ar y trysor,
nac ar y cyfoeth o bethau dymunol.
10Wedi ei hysbeilio, ei hanrheithio a'i dinoethi,
pob calon yn toddi, pob glin yn gwegian,
y lwynau'n crynu,
ac wyneb pawb yn gwelwi!
11Ple mae ffau'r llew ac ogof#2:11 Hebraeg, a phorfa. y llewod ifainc,
cynefin y llew a'r llewes,
lle triga'r cenawon heb eu tarfu?
12Darniodd y llew ddigon i'w genawon,
a lladd ar gyfer ei lewesau;
llanwodd ei ogofeydd ag ysglyfaeth,
a'i loches â'i raib.
13“Wele fi yn dy erbyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
“Llosgaf dy ffau#2:13 Tebygol. Hebraeg, ei cherbyd. mewn mwg,
ac ysa'r cleddyf dy genawon;
torraf ymaith dy ysbail o'r tir,
ac ni chlywir mwyach sôn am dy weithredoedd.”

Currently Selected:

Nahum 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy