YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 26

26
Bendithion Ufudd-dod
Deut. 7:12–24; 28:1–14
1“ ‘Peidiwch â gwneud ichwi eilunod, na chodi ichwi eich hunain ddelw na cholofn; na fydded o fewn eich tir faen cerfiedig i blygu iddo; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw. 2Cadwch fy Sabothau a pharchwch fy nghysegr; myfi yw'r ARGLWYDD.
3“ ‘Os byddwch yn dilyn fy neddfau ac yn gofalu cadw fy ngorchmynion, 4rhoddaf ichwi'r glaw yn ei dymor, a rhydd y tir ei gnwd a choed y maes eu ffrwyth. 5Bydd dyrnu'n ymestyn hyd amser y cynhaeaf grawnwin, a'r cynhaeaf grawnwin hyd amser plannu, a byddwch yn bwyta i'ch digoni ac yn byw'n ddiogel yn eich gwlad. 6Rhoddaf heddwch yn y wlad, a chewch orwedd i lawr heb neb i'ch dychryn; symudaf y bwystfilod peryglus o'r wlad, ac ni ddaw'r cleddyf trwy eich tir. 7Byddwch yn ymlid eich gelynion, a byddant yn syrthio o'ch blaen trwy'r cleddyf. 8Bydd pump ohonoch yn ymlid cant a chant ohonoch yn ymlid deng mil, a bydd eich gelynion yn syrthio o'ch blaen trwy'r cleddyf. 9Byddaf yn edrych yn ffafriol arnoch, yn eich gwneud yn ffrwythlon ac yn eich cynyddu, a byddaf yn cadw fy nghyfamod â chwi. 10Byddwch yn dal i fwyta'r hen gnwd, ac yn gorfod bwrw allan yr hen i wneud lle i'r newydd. 11Byddaf yn gosod fy nhabernacl yn eich mysg, ac ni fyddaf yn eich ffieiddio. 12Byddaf yn rhodio yn eich mysg; byddaf yn Dduw i chwi a chwithau'n bobl i minnau. 13Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft rhag ichwi fod yn weision yno; torrais farrau eich iau a gwneud ichwi gerdded yn sythion.
Melltithion Anufudd-dod
Deut. 28:15–68
14“ ‘Ond os na fyddwch yn gwrando arnaf nac yn gwneud yr holl orchmynion hyn, 15ac os byddwch yn gwrthod fy neddfau ac yn ffieiddio fy marnedigaethau, heb gadw fy ngorchmynion, ond yn torri fy nghyfamod, 16yna fe wnaf hyn â chwi: byddaf yn dwyn dychryn arnoch, darfodedigaeth a thwymyn a fydd yn gwneud i'ch llygaid ballu ac i'ch enaid ddihoeni. Byddwch yn hau'n ofer, gan mai eich gelynion fydd yn ei fwyta. 17Trof fy wyneb i'ch erbyn, a chewch eich gorchfygu gan eich gelynion; bydd y rhai sy'n eich casáu yn rheoli drosoch, a byddwch yn ffoi heb neb yn eich ymlid.
18“ ‘Os na fyddwch ar ôl hyn i gyd yn gwrando arnaf, byddaf yn eich cosbi seithwaith am eich pechodau. 19Fe ddrylliaf eich balchder ystyfnig, a gwnaf y nefoedd uwch eich pen fel haearn a'r ddaear danoch fel pres. 20Byddwch yn treulio'ch nerth yn ofer, oherwydd ni fydd eich tir yn rhoi ei gnwd na choed y maes eu ffrwyth.
21“ ‘Os byddwch yn parhau i'm gwrthwynebu, ac yn gwrthod gwrando arnaf, byddaf yn ychwanegu drygau arnoch seithwaith am eich pechodau. 22Byddaf yn anfon bwystfilod gwyllt i'ch plith, a byddant yn eich amddifadu o'ch plant, yn difa eich anifeiliaid, ac yn eich gwneud mor fychan o rif fel y bydd eich ffyrdd yn anial.
23“ ‘Os na fyddwch ar ôl hyn i gyd yn derbyn disgyblaeth, ond yn parhau i'm gwrthwynebu, 24byddaf finnau yn eich gwrthwynebu chwithau, a byddaf fi fy hun yn eich taro seithwaith am eich pechodau. 25Byddaf yn dod â'r cleddyf yn eich erbyn i ddial am dorri'r cyfamod, a byddwch yn ymgasglu i'ch dinasoedd; yna fe anfonaf bla i'ch mysg, a'ch rhoi yn llaw'r gelyn. 26Pan dorraf eich cynhaliaeth o fara, bydd deg gwraig yn medru pobi eich bara mewn un ffwrn, a byddant yn rhannu'r bara wrth bwysau; cewch fwyta, ond ni'ch digonir.
27“ ‘Os byddwch er gwaethaf hyn heb wrando arnaf, ond yn parhau i'm gwrthwynebu, 28yna fe'ch gwrthwynebaf chwi yn fy nig, a byddaf fi fy hunan yn eich cosbi seithwaith am eich pechodau. 29Byddwch yn bwyta cnawd eich meibion a'ch merched. 30Byddaf yn dinistrio eich uchelfeydd, yn torri i lawr eich allorau arogldarthu, ac yn pentyrru eich cyrff ar weddillion eich eilunod, a byddaf yn eich ffieiddio. 31Gwnaf eich dinasoedd yn adfeilion, dinistriaf eich cysegrleoedd, ac nid aroglaf eich arogl peraidd. 32Byddaf yn gwneud y tir yn ddiffaith, a bydd eich gelynion sy'n byw yno wedi eu syfrdanu. 33Fe'ch gwasgaraf ymysg y cenhedloedd, a byddaf yn dinoethi fy nghleddyf i'ch ymlid; bydd eich tir yn ddiffaith a'ch dinasoedd yn adfeilion. 34Yna bydd y wlad yn mwynhau ei Sabothau dros yr holl amser y bydd yn ddiffaith; tra byddwch chwi yng ngwlad eich gelynion, bydd y tir yn cael gorffwys ac yn mwynhau ei Sabothau. 35Dros yr holl amser y bydd yn ddiffaith, bydd y wlad yn cael y gorffwys nas cafodd ar y Sabothau pan oeddech chwi'n byw yno. 36Ac am y rhai ohonoch a adewir, gwnaf eu calonnau mor ofnus yng ngwledydd eu gelynion fel y bydd siffrwd deilen yn ysgwyd yn peri iddynt ffoi. Byddant yn ffoi fel pe o flaen cleddyf, ac yn cwympo heb neb yn eu hymlid. 37Byddant yn syrthio ar draws ei gilydd, fel pe'n dianc rhag cleddyf, heb neb yn eu hymlid. Felly ni fedrwch sefyll o flaen eich gelynion. 38Byddwch yn trengi o flaen y cenhedloedd, a bydd gwlad eich gelynion yn eich llyncu. 39Bydd y rhai ohonoch a adewir yn darfod yng ngwledydd eu gelynion oherwydd eu troseddau; a hefyd byddant yn dihoeni oherwydd eu troseddau a throseddau eu hynafiaid.
40“ ‘Ond os byddant yn cyffesu eu troseddau a throseddau eu hynafiaid, sef iddynt fod yn anffyddlon tuag ataf a'm gwrthwynebu, 41a gwneud i minnau eu gwrthwynebu hwy a'u gyrru i wlad eu gelynion, yna, pan fydd eu calonnau dienwaededig wedi eu darostwng a hwythau wedi derbyn eu cosb, 42fe gofiaf fy nghyfamod â Jacob ac ag Isaac ac ag Abraham, ac fe gofiaf am y tir. 43Gadewir y tir ganddynt, ac fe fwynha ei Sabothau pan fydd yn ddiffeithwch hebddynt. Cosbir hwy am eu troseddau, oherwydd iddynt wrthod fy ngorchmynion a ffieiddio fy neddfau. 44Er hynny, pan fyddant yng ngwlad eu gelynion, ni fyddaf yn eu gwrthod, nac yn eu ffieiddio i'w dinistrio'n llwyr, gan dorri fy nghyfamod â hwy. Myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw. 45Er eu mwyn hwy fe gofiaf fy nghyfamod â'u hynafiaid, a ddygais allan o wlad yr Aifft yng ngŵydd y cenhedloedd, er mwyn bod yn Dduw iddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”
46Dyma'r deddfau, y gorchmynion a'r cyfreithiau a osododd yr ARGLWYDD rhyngddo ef a phobl Israel ar Fynydd Sinai trwy law Moses.

Currently Selected:

Lefiticus 26: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy