YouVersion Logo
Search Icon

Jona 3

3
Ufudd-dod Jona
1Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Jona yr eildro a dweud, 2“Cod, dos i Ninefe, y ddinas fawr, a llefara wrthi y neges a ddywedaf fi wrthyt.” 3Cododd Jona a mynd i Ninefe yn ôl gair yr ARGLWYDD. Yr oedd Ninefe'n ddinas fawr iawn, yn daith tridiau ar ei thraws. 4Yna dechreuodd Jona fynd trwy'r ddinas, ac wedi mynd daith un diwrnod cyhoeddodd, “Ymhen deugain diwrnod fe ddymchwelir Ninefe.” 5Credodd pobl Ninefe yn Nuw, a chyhoeddasant ympryd a gwisgo sachliain, o'r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt. 6A phan ddaeth y newydd at frenin Ninefe, cododd yntau oddi ar ei orsedd, a diosg ei fantell a gwisgo sachliain ac eistedd mewn lludw. 7Gwnaeth broclamasiwn a'i gyhoeddi yn Ninefe:
“Trwy orchymyn y brenin a'i uchelwyr:
“Na fydded i ddyn nac anifail, gwartheg na defaid, brofi dim; na fydded iddynt fwyta nac yfed. 8Bydded iddynt#3:8 Hebraeg, Bydded i ddyn ac anifail. wisgo sachliain a galw yn daer ar Dduw. Bydded i bob un droi oddi wrth ei ffordd ddrygionus ac oddi wrth y trais sydd ar ei ddwylo. 9Pwy a ŵyr na fydd Duw yn edifarhau eto, ac yn troi oddi wrth ei ddig mawr, fel na'n difethir ni?”
10Pan welodd Duw beth a wnaethant, a'u bod wedi troi o'u ffyrdd drygionus, edifarhaodd am y drwg y bwriadodd ei wneud iddynt, ac nis gwnaeth.

Currently Selected:

Jona 3: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy