YouVersion Logo
Search Icon

Job 2

2
Satan yn Profi Job Eto
1Unwaith eto daeth y dydd i'r bodau nefol ymddangos o flaen yr ARGLWYDD, a daeth Satan hefyd gyda hwy. 2Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “O ble y daethost ti?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “O fynd yma ac acw hyd y ddaear a thramwyo drosti.” 3Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “A sylwaist ti ar fy ngwas Job? Nid oes neb tebyg iddo ar y ddaear, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg. Y mae'n dal i lynu wrth ei uniondeb, er i ti fy annog i'w ddifetha'n ddiachos.” 4Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “Croen am groen! Fe rydd dyn y cyfan sydd ganddo am ei einioes. 5Ond estyn di dy law a chyffwrdd â'i esgyrn a'i gnawd; yna'n sicr fe'th felltithia yn dy wyneb.” 6Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “Wele ef yn dy law; yn unig arbed ei einioes.” 7Ac aeth Satan allan o ŵydd yr ARGLWYDD.
Trawyd Job â chornwydydd blin o wadn ei droed i'w gorun, 8a chymerodd ddarn o lestr pridd i'w grafu ei hun, ac eisteddodd ar y domen ludw. 9Dywedodd ei wraig wrtho, “A wyt am barhau i lynu wrth d'uniondeb? Melltithia Dduw a bydd farw.” 10Ond dywedodd ef wrthi, “Yr wyt yn llefaru fel dynes ffôl; os derbyniwn dda gan Dduw, oni dderbyniwn ddrwg hefyd?” Yn hyn i gyd ni phechodd Job â gair o'i enau.
Cyfeillion Job yn Dod i'w Gysuro
11Yna clywodd tri chyfaill Job am y cystudd trwm a ddaeth arno. Daeth Eliffas y Temaniad, Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, pob un o'i le ei hun, a chytuno â'i gilydd i ddod i gydymdeimlo ag ef a'i gysuro. 12Pan welsant ef o'r pellter, nid oeddent yn ei adnabod; yna wylasant yn uchel a rhwygo'u dillad a thaflu llwch dros eu pennau i'r awyr. 13Eisteddasant ar y llawr gydag ef am saith diwrnod a saith nos. Ni ddywedodd yr un ohonynt air wrtho, am eu bod yn gweld fod ei boen yn fawr.

Currently Selected:

Job 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy