YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 2

2
Genedigaeth Moses
1Priododd gŵr o dylwyth Lefi ag un o ferched Lefi. 2Beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a phan welodd ei fod yn dlws, fe'i cuddiodd am dri mis. 3Ond gan na allai ei guddio'n hwy, cymerodd gawell wedi ei wneud o lafrwyn a'i ddwbio â chlai a phyg; rhoddodd y plentyn ynddo a'i osod ymysg yr hesg ar lan y Neil. 4Yr oedd chwaer y plentyn yn sefyll nid nepell oddi wrtho er mwyn cael gwybod beth a ddigwyddai iddo. 5Daeth merch Pharo i ymdrochi yn yr afon tra oedd ei morynion yn cerdded ar y lan, a phan welodd y cawell yng nghanol yr hesg, anfonodd un ohonynt i'w nôl. 6Wedi iddi ei agor, fe welodd y plentyn, ac yr oedd y bachgen yn wylo. Tosturiodd hithau wrtho a dweud, “Un o blant yr Hebreaid yw hwn.” 7Yna gofynnodd chwaer y plentyn i ferch Pharo, “A gaf fi fynd i chwilio am famaeth o blith gwragedd yr Hebreaid, iddi fagu'r plentyn iti?” 8Atebodd merch Pharo, “Dos.” Felly aeth y ferch ymaith a galw mam y plentyn. 9Dywedodd merch Pharo wrth honno, “Cymer y plentyn hwn a'i fagu imi, ac fe roddaf finnau dâl iti.” Felly cymerodd y wraig y plentyn a'i fagu. 10Wedi i'r plentyn dyfu i fyny, aeth ag ef yn ôl at ferch Pharo. Mabwysiadodd hithau ef a'i enwi'n Moses#2:10 Hebraeg, Mosheh., oherwydd iddi ddweud, “Tynnais ef allan#2:10 Hebraeg, Mashah. o'r dŵr.”
Moses yn Ffoi i Midian
11Un diwrnod, wedi i Moses dyfu i fyny, aeth allan at ei bobl ac edrych ar eu beichiau. Gwelodd Eifftiwr yn taro Hebrëwr, un o'i frodyr, 12ac wedi edrych o'i amgylch a gweld nad oedd neb yno, lladdodd Moses yr Eifftiwr a'i guddio yn y tywod. 13Pan aeth allan drannoeth a gweld dau Hebrëwr yn ymladd â'i gilydd, gofynnodd i'r un oedd ar fai, “Pam yr wyt yn taro dy gyfaill?” 14Atebodd yntau, “Pwy a'th benododd di yn bennaeth ac yn farnwr arnom? A wyt am fy lladd i fel y lleddaist yr Eifftiwr?” Daeth ofn ar Moses o sylweddoli fod y peth yn hysbys.
15Pan glywodd Pharo am hyn, ceisiodd ladd Moses, ond ffodd ef oddi wrtho a mynd i fyw i wlad Midian; ac yno eisteddodd i lawr yn ymyl pydew. 16Yr oedd gan offeiriad Midian saith o ferched, a daethant i godi dŵr er mwyn llenwi'r cafnau a dyfrhau defaid eu tad. 17Daeth bugeiliaid heibio a'u gyrru oddi yno, ond cododd Moses ar ei draed a'u cynorthwyo i ddyfrhau eu praidd. 18Pan ddaeth y merched at Reuel eu tad, gofynnodd, “Sut y daethoch yn ôl mor fuan heddiw?” 19Dywedasant hwythau, “Eifftiwr a ddaeth i'n hamddiffyn rhag y bugeiliaid, a chodi dŵr i ddyfrhau'r praidd.” 20Yna gofynnodd yntau iddynt, “Ple mae'r dyn? Pam yr ydych wedi ei adael ar ôl? Galwch arno, iddo gael tamaid i'w fwyta.” 21Cytunodd Moses i aros gyda'r gŵr, a rhoddodd yntau ei ferch Seffora yn wraig iddo. 22Esgorodd hithau ar fab, a galwodd Moses ef yn Gersom, oherwydd dywedodd, “Dieithryn#2:22 Hebraeg, ger. ydwyf mewn gwlad ddieithr.”
23Yn ystod yr amser maith hwn, bu farw brenin yr Aifft. Ond yr oedd pobl Israel yn dal i riddfan oherwydd eu caethiwed, ac yn gweiddi am gymorth, a daeth eu gwaedd o achos eu caethiwed at Dduw. 24Clywodd Duw eu cwynfan, a chofiodd ei gyfamod ag Abraham, Isaac a Jacob; 25edrychodd ar bobl Israel ac ystyriodd eu cyflwr.

Currently Selected:

Exodus 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy