YouVersion Logo
Search Icon

2 Macabeaid 15

15
Bwriad Anfad Nicanor
1Rhoddwyd gwybod i Nicanor fod Jwdas a'i wŷr yng nghyffiniau Samaria, a gwnaeth ef gynllun i ymosod arnynt ar eu dydd gorffwys heb ddim perygl iddo'i hun. 2Ond yr oedd yn ei fyddin Iddewon a oedd wedi eu gorfodi i'w ganlyn, a dywedodd y rhain wrtho, “Paid ar unrhyw gyfrif â chyflawni'r fath laddfa greulon ac anwar, ond anrhydedda'r dydd y rhoddwyd arno barch arbennig ynghyd â sancteiddrwydd yr Un sy'n gweld pob peth.” 3Ond dyma'r dyn hwn a drwythwyd mewn pechod yn gofyn ai yn y nef yr oedd y Penarglwydd oedd wedi gorchymyn cadw dydd y Saboth. 4Atebasant hwythau yn groyw, “Ie yn wir, hwnnw sydd yn y nef, yr Arglwydd byw, yw'r Penarglwydd a ordeiniodd barchu'r seithfed dydd.” 5“A myfi,” meddai yntau, “yw'r penarglwydd ar y ddaear, sy'n gorchymyn cymryd arfau a chyflawni dyletswyddau i'r brenin.” Er hynny, ni lwyddodd i gyflawni ei fwriad anfad.
Jwdas yn Calonogi ei Wŷr
6Yn ei ymffrost di-ben-draw a'i rodres, penderfynodd Nicanor wneud cofeb o'r holl ysbail o fyddin Jwdas. 7Ond nid oedd pall ar argyhoeddiad Macabeus nac ar ei obaith y câi gymorth gan yr Arglwydd. 8Daliai i annog ei wŷr i beidio ag ofni ymosodiad y Cenhedloedd, ond i gadw yn eu meddyliau y cymorth a gawsent gynt o'r nef, ac i ddisgwyl y tro hwn hefyd am y fuddugoliaeth yr oedd yr Hollalluog am ei rhoi iddynt. 9A thrwy eu calonogi â geiriau o'r gyfraith a'r proffwydi, a'u hatgoffa hefyd am y campau yr oeddent wedi eu cyflawni, fe'u cafodd i gyflwr mwy brwd. 10Ac wedi deffro eu hysbryd, fe'u calonogodd trwy ddangos yn ogystal ffalster y Cenhedloedd a'u hanffyddlondeb i'w llwon. 11Arfogodd bob un ohonynt, nid â diogelwch tarianau a gwaywffyn, ond â'r calondid sydd mewn geiriau dewr; ac fe'u llonnodd i gyd trwy adrodd breuddwyd gwbl argyhoeddiadol a gawsai, math o weledigaeth ddilys. 12Dyma'r profiad a gafodd: gwelodd Onias yr archoffeiriad gynt, dyn da a rhinweddol, gwylaidd ei ffordd, addfwyn ei gymeriad, gweddus ei air, dyn a oedd o'i blentyndod wedi ymarfer yn ddi-nam bopeth a berthyn i rinwedd. Gwelodd hwn yn estyn ei ddwylo ac yn gweddïo dros holl gorff yr Iddewon. 13Wedyn yn yr un modd fe ymddangosodd dyn o oedran ac urddas nodedig, yn meddu ar ryw awdurdod rhyfeddol a mawreddog iawn. 14Ac meddai Onias, “Dyma ddyn sy'n caru ei frodyr, dyn sy'n gweddïo llawer dros y bobl a'r ddinas sanctaidd. Jeremeia, proffwyd Duw, yw ef.” 15Estynnodd Jeremeia ei law dde a chyflwyno i Jwdas gleddyf aur, ac wrth ei roi cyfarchodd ef fel hyn: 16“Cymer y cleddyf sanctaidd yn rhodd gan Dduw, iti ddarnio'r gelyn yn gandryll ag ef.”
17Codwyd eu calon gan araith odidog Jwdas. Yr oedd ynddi rym i symbylu eu dewrder ac i wroli ysbryd y dynion ifainc. Penderfynasant beidio â chynnal ymgyrch faith, ond ymosod yn deilwng o'u tras ac ymladd law wrth law â'u holl wroldeb nes dwyn yr ymrafael i ben; oherwydd yr oedd y ddinas, y mannau sanctaidd a'r deml mewn perygl. 18Eilbeth ganddynt oedd eu hofn am eu gwragedd a'u plant, a hefyd am eu brodyr a'u perthnasau; yr oedd eu hofn mwyaf a blaenaf am y deml gysegredig. 19Nid oedd ing y rheini a adawyd yn y ddinas yn ddim llai, yng nghynnwrf eu pryder am frwydr ar faes agored. 20Yn awr yr oedd pawb yn disgwyl y dyfarniad a geid; yr oedd y gelyn eisoes wedi ymgasglu#15:20 Yn ôl darlleniad arall, wedi mynd i'r afael., a'u byddin wedi ei threfnu'n rhengoedd, yr eliffantod wedi eu gosod mewn safle manteisiol, a'r gwŷr meirch yn eu lle ar yr asgell. 21Pan welodd Macabeus y lluoedd o'i flaen, a'r amrywiaeth o arfau a ddarparwyd iddynt, a ffyrnigrwydd yr eliffantod, estynnodd ei ddwylo tua'r nef a galw ar yr Arglwydd, gwneuthurwr rhyfeddodau; oherwydd gwyddai nad grym arfau, ond dyfarniad yr Arglwydd ei hun sy'n sicrhau'r fuddugoliaeth i'r rhai sy'n ei haeddu. 22A galwodd arno â'r geiriau hyn: “Tydi Benarglwydd, anfonaist dy angel at Heseceia brenin Jwda, a lladdodd ef hyd at gant wyth deg a phump o filoedd o lu Senacherib. 23Yr awr hon hefyd, Benarglwydd y nefoedd, anfon angel da o'n blaenau i daenu arswyd a braw; 24bydded i'th fraich nerthol daro i lawr y cablwyr hyn sy'n ymosod ar dy bobl sanctaidd.” Ac â'r geiriau hynny fe dawodd.
Gorchfygu a Lladd Nicanor
25Dechreuodd Nicanor a'i fyddin symud yn eu blaenau gyda sain utgyrn a chaneuon rhyfel. 26Aeth Jwdas a'i fyddin i'r afael â'r gelyn dan alw ar Dduw a gweddïo. 27Â'u dwylo yr oeddent yn ymladd, ond yn eu calonnau yr oeddent yn gweddïo ar Dduw; gadawsant yn gelanedd gymaint â phymtheng mil ar hugain, a mawr oedd eu llawenydd o weld Duw yn ei amlygu ei hun fel hyn. 28Wedi'r brwydro, wrth iddynt ymadael yn eu llawenydd, daethant ar draws Nicanor, yn gorwedd yn farw a'i holl arfwisg amdano. 29Â bloeddiadau cynhyrfus bendithiasant y Penarglwydd yn eu mamiaith. 30A dyma'r gŵr a oedd wedi ymladd yn gyson yn y rheng flaenaf, gorff ac enaid, dros ei gyd-ddinasyddion, ac a oedd wedi cadw trwy'r blynyddoedd gariad ei ieuenctid tuag at ei genedl, yn gorchymyn iddynt dorri pen Nicanor i ffwrdd, a hefyd ei fraich gyfan, a'u dwyn i Jerwsalem. 31Wedi cyrraedd yno, cynullodd ei gyd-genedl ynghyd, a chan osod yr offeiriaid gerbron yr allor, anfonodd am y garsiwn o gaer y ddinas. 32Dangosodd iddynt ben y Nicanor halogedig hwnnw, a braich y cablwr hwnnw, y fraich yr oedd yn ei ymffrost wedi ei hestyn yn erbyn teml yr Hollalluog. 33Torrodd allan dafod Nicanor, y dyn annuwiol hwnnw, a dywedodd ei fod am ei roi i'r adar fesul tamaid, a chrogi gwobr ei ynfydrwydd gyferbyn â'r cysegr. 34Yna cododd pawb eu lleisiau tua'r nef i fendithio'r Arglwydd am iddo ei amlygu ei hun, gan ddweud, “Bendigedig fyddo'r hwn a gadwodd ei fangre'i hun yn ddihalog.” 35Clymodd ben Nicanor wrth fur y gaer, yn arwydd eglur a gweladwy gan bawb o gymorth yr Arglwydd. 36Trwy bleidlais gyhoeddus penderfynwyd yn unfrydol beidio ar unrhyw gyfrif â gadael i'r dydd hwn fod heb ei goffâd, ond cadw gŵyl ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis—Adar yn yr iaith Aramaeg—un dydd cyn Gŵyl Mordecai.
Diweddglo
37Dyna, gan hynny, gwrs helynt Nicanor, a chan fod y ddinas er y dyddiau hynny wedi bod ym meddiant yr Iddewon, fe derfynaf finnau fy llyfr yma. 38Os cyfansoddwyd ef yn goeth ac yn gymen, dyna oedd fy nymuniad i; ond os yn wael ac yn sathredig, dyna eithaf fy ngallu. 39Oherwydd fel y mae yfed gwin ar ei ben ei hun yn atgas, ac yfed dŵr yr un modd hefyd, tra mae gwin yn gymysg â dŵr yn felys ac yn rhoi mwynhad hyfryd, felly hefyd y mae amrywiaeth grefftus yn yr ymadrodd yn hyfrydwch i glust y darllenydd. Ac ar hynny fe ddibennaf.

Currently Selected:

2 Macabeaid 15: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy