YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 4

4
Offer y Deml
1 Bren. 7:23–51
1Gwnaeth allor bres, ugain cufydd o hyd, ugain cufydd o led a deg cufydd o uchder. 2Yna fe wnaeth y môr o fetel tawdd; yr oedd yn grwn ac yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, a phum cufydd o uchder, yn mesur deg cufydd ar hugain o gylch. 3O amgylch y môr, yn ei gylchynu dan ei ymyl am ddeg cufydd, yr oedd rhywbeth tebyg i ychen; yr oeddent mewn dwy res ac wedi eu bwrw'n rhan ohono. 4Safai'r môr ar gefn deuddeg ych, tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de a thri tua'r dwyrain, a'u cynffonnau at i mewn. 5Dyrnfedd oedd ei drwch, a'i ymyl wedi ei weithio fel ymyl cwpan neu flodyn lili. Yr oedd yn gallu dal tair mil o bathau. 6Hefyd fe wnaeth ddeg noe i ymolchi ynddynt, pump ar y dde a phump ar y chwith, ac yn y rhain yr oeddent yn trochi offer y poethoffrwm; ond yn y môr yr oedd yr offeiriaid yn ymolchi. 7Gwnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl y cynllun, a'u rhoi yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith. 8Gwnaeth ddeg bwrdd a'u gosod yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith, a hefyd gant o gawgiau aur. 9Gwnaeth gyntedd yr offeiriaid a'r cyntedd mawr gyda'i ddorau, a thaenodd y dorau â phres. 10Gosododd y môr ar yr ochr dde-ddwyreiniol i'r tŷ.
11Gwnaeth Hiram y crochanau, y rhawiau a'r cawgiau, a gorffen y gwaith a wnaeth i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ Dduw: 12y ddwy golofn; y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith drostynt; 13y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau; 14y deg troli; y deg noe ar y trolïau; 15y môr a'r deuddeg ych dano; y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau. 16Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD o bres gloyw. 17Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Seredetha yng ngwastadedd yr Iorddonen. 18Gwnaeth Solomon gymaint o'r holl lestri hyn fel na ellid pwyso'r pres.
19Gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i dŷ Dduw: yr allor aur a'r byrddau i ddal y bara gosod; 20y canwyllbrennau a'u lampau o aur pur, i oleuo o flaen y gafell yn ôl y ddefod; 21y blodau, y llusernau, a'r gefeiliau aur, a hwnnw'n aur perffaith; 22y sisyrnau, y cawgiau, y llwyau a'r thuserau o aur pur; o aur hefyd yr oedd drws y tŷ a'i ddorau tu mewn i'r cysegr sancteiddiaf, a'r dorau o fewn y côr.

Currently Selected:

2 Cronicl 4: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy