YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 2

2
Solomon yn Paratoi i Adeiladu'r Deml
1 Bren. 5:1–18
1Penderfynodd Solomon adeiladu tŷ i enw'r ARGLWYDD, a phalas iddo'i hun. 2Dewisodd ddeng mil a thrigain o ddynion yn gludwyr, a phedwar ugain mil yn chwarelwyr yn y mynydd, a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr drostynt. 3Yna fe anfonodd y neges hon at Hiram brenin Tyrus, “Gwna i mi yn union fel y gwnaethost i Ddafydd fy nhad pan anfonaist iddo gedrwydd er mwyn iddo adeiladu tŷ i fyw ynddo. 4Yr wyf fi am adeiladu tŷ i enw'r ARGLWYDD fy Nuw a'i gysegru iddo, er mwyn llosgi arogldarth peraidd a rhoi'r bara gosod o'i flaen yn rheolaidd, a gwneud poethoffrymau fore a hwyr, ar y Sabothau, y newydd-loerau a gwyliau penodedig yr ARGLWYDD ein Duw; oherwydd y mae hon yn ddeddf i'w chadw gan Israel am byth. 5Bydd y tŷ a adeiladaf fi yn un mawr, am fod ein Duw ni yn fwy na'r holl dduwiau. 6Ond pwy a all adeiladu tŷ iddo pan yw'r nefoedd a nef y nefoedd yn methu ei gynnwys? A phwy wyf fi i godi tŷ iddo, heblaw i arogldarthu o'i flaen? 7Felly, anfon ataf grefftwr medrus i weithio mewn aur, arian, pres a haearn, ac mewn defnydd porffor ac ysgarlad, a sidan glas, un sydd hefyd yn gerfiwr cywrain, er mwyn iddo ymuno â'r crefftwyr a benododd fy nhad Dafydd, ac sydd gennyf yn Jwda a Jerwsalem. 8Anfon ataf hefyd gedrwydd, ffynidwydd a choed almug o Lebanon, oherwydd gwn fod dy weision yn gyfarwydd â thorri coed Lebanon. Bydd fy ngweision yn cynorthwyo dy weision di 9i ddarparu llawer o goed i mi, oherwydd fe fydd y tŷ yr wyf am ei adeiladu yn fawr a rhyfeddol. 10Fe roddaf i'th weision, sef y coedwigwyr sy'n torri'r coed, ugain mil o corusau o wenith wedi ei falu, ugain mil o corusau o haidd, ugain mil o bathau o win ac ugain mil o bathau o olew.”
11Anfonodd Hiram brenin Tyrus yr ateb hwn i Solomon mewn llythyr: “Am i'r ARGLWYDD garu ei bobl, fe'th wnaeth di'n frenin arnynt. 12Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel, gwneuthurwr nef a daear, am iddo roi i'r Brenin Dafydd fab doeth, wedi ei ddonio â synnwyr a deall, i adeiladu tŷ i'r ARGLWYDD a phalas iddo'i hun. 13Yr wyf yn anfon iti'n awr grefftwr medrus a fu'n gweithio i Hiram fy nhad; 14mab ydyw i un o ferched Dan, a'i dad yn hanu o Tyrus. Y mae wedi ei hyfforddi i weithio mewn aur, arian, pres, haearn, cerrig a choed, yn ogystal â defnydd porffor ac ysgarlad, sidan glas, a lliain main; gŵyr hefyd sut i gerfio unrhyw beth, a sut i weithio yn ôl unrhyw batrwm a roddir iddo. Gad iddo ymuno â'th grefftwyr di a chrefftwyr f'arglwydd Dafydd, dy dad. 15Felly, anfoner y gwenith, yr haidd, yr olew a'r gwin a addawodd fy arglwydd i'w was, 16ac fe dorrwn ninnau hynny o goed a fynni o Lebanon, a'u gyrru'n rafftiau i ti dros y môr i Jopa; cei dithau eu cario i fyny i Jerwsalem.”
17Rhifodd Solomon yr holl ddieithriaid oedd yng ngwlad Israel, yn union fel y rhifodd Dafydd ei dad hwy, a'r cyfanswm oedd cant pum deg a thri o filoedd a chwe chant. 18Fe wnaeth ddeng mil a thrigain ohonynt yn gludwyr a phedwar ugain mil yn chwarelwyr yn y mynydd, a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr i sicrhau fod y bobl yn gweithio.

Currently Selected:

2 Cronicl 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy