YouVersion Logo
Search Icon

1 Thesaloniaid 5

5
1Ynglŷn â'r amseroedd a'r prydiau, gyfeillion, nid oes arnoch angen i neb ysgrifennu atoch. 2Oherwydd yr ydych yn gwybod yn iawn mai fel lleidr yn y nos y daw Dydd yr Arglwydd. 3Pan fydd pobl yn dweud, “Dyma dangnefedd a diogelwch”, dyna'r pryd y daw dinistr disymwth ar eu gwarthaf fel gwewyr esgor ar wraig feichiog, ac ni fydd dim dianc iddynt. 4Ond nid ydych chwi, gyfeillion, mewn tywyllwch, i'r Dydd eich goddiweddyd fel lleidr; 5pobl y goleuni, pobl y dydd, ydych chwi oll. Nid ydym yn perthyn i'r nos nac i'r tywyllwch. 6Am hynny, rhaid inni beidio â chysgu, fel y rhelyw, ond bod yn effro a sobr. 7Y rhai sydd yn cysgu, yn y nos y maent yn cysgu, a'r rhai sydd yn meddwi, yn y nos y maent yn meddwi. 8Ond gan ein bod ni'n perthyn i'r dydd, gadewch inni fod yn sobr, gan wisgo amdanom ffydd a chariad yn ddwyfronneg, a gobaith iachawdwriaeth yn helm. 9Oherwydd nid i ddigofaint y penododd Duw ni, ond i feddu iachawdwriaeth drwy ein Harglwydd Iesu Grist, 10yr hwn a fu farw drosom, er mwyn inni gael byw gydag ef, p'run bynnag ai yn effro ai yn cysgu y byddwn. 11Am hynny, calonogwch eich gilydd, ac adeiladwch bob un ei gilydd—fel, yn wir, yr ydych yn gwneud.
Anogaethau Terfynol a Chyfarchion
12Yr ydym yn gofyn ichwi, gyfeillion, barchu'r rhai sydd yn llafurio yn eich plith, yn arweinwyr arnoch yn yr Arglwydd, ac yn eich cynghori, 13a synio'n uchel iawn amdanynt mewn cariad, ar gyfrif eu gwaith. Byddwch yn heddychlon yn eich plith eich hunain. 14Ac yr ydym yn eich annog, gyfeillion, ceryddwch y segurwyr, cysurwch y gwangalon, cynorthwywch y rhai eiddil, byddwch yn amyneddgar wrth bawb. 15Gwyliwch na fydd neb yn talu drwg am ddrwg i neb, ond ceisiwch bob amser les eich gilydd a lles pawb.
16Llawenhewch bob amser. 17Gweddïwch yn ddi-baid. 18Ym mhob dim rhowch ddiolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi. 19Peidiwch â diffodd yr Ysbryd; 20peidiwch â dirmygu proffwydoliaethau. 21Ond rhowch brawf ar bob peth, a glynwch wrth yr hyn sydd dda. 22Ymgadwch rhag pob math o ddrygioni.
23Bydded i Dduw'r tangnefedd ei hun eich sancteiddio chwi yn gyfan gwbl, a chadw eich ysbryd a'ch enaid a'ch corff yn gwbl iach a di-fai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist! 24Y mae'r hwn sy'n eich galw yn ffyddlon, ac fe gyflawna ef hyn.
25Gyfeillion, gweddïwch drosom ninnau.
26Cyfarchwch y cyfeillion i gyd â chusan sanctaidd. 27Yn enw'r Arglwydd, parwch ddarllen y llythyr hwn i'r holl gynulleidfa.
28Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi!

Currently Selected:

1 Thesaloniaid 5: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy