YouVersion Logo
Search Icon

1 Thesaloniaid 3

3
1Felly, pan na allem ymgynnal yn hwy, buom yn fodlon aros yn Athen ar ein pen ein hunain, 2ac anfon Timotheus, ein brawd a chydweithiwr Duw#3:2 Neu, ein brawd a'n cydweithiwr dros Dduw. Yn ôl darlleniad arall, ein brawd a'n cydweithiwr. yn Efengyl Crist, i'ch cadarnhau a'ch calonogi chwi yn eich ffydd, 3rhag i neb eich siglo yn y gorthrymderau hyn. Oherwydd fe wyddoch eich hunain mai i hyn yr arfaethwyd ni; 4yn wir, pan oeddem gyda chwi, rhagfynegasom ichwi y byddai i ni ddioddef gorthrymder; ac felly y bu, fel y gwyddoch. 5Am hynny, gan na allwn ymgynnal yn hwy, mi anfonais i gael gwybod am eich ffydd chwi, rhag ofn i'r temtiwr rywsut fod wedi eich temtio, ac i'n llafur ni fynd yn ofer.
6Ond y mae Timotheus newydd ddod atom oddi wrthych, a rhoi newyddion da inni ynglŷn â'ch ffydd a'ch cariad chwi. Y mae'n dweud fod gennych goffa da amdanom bob amser, a'ch bod yn hiraethu cymaint am ein gweld ni ag yr ydym ninnau am eich gweld chwi. 7Am hynny, gyfeillion, cawsom ni, yn ein holl angen a'n gorthrymder, ein calonogi ynglŷn â chwi, ar gyfrif eich ffydd, 8oherwydd os ydych chwi yn awr yn sefyll yn gadarn yn yr Arglwydd, y mae hynny'n rhoi bywyd i ni. 9Pa ddiolch a allwn ei dalu i Dduw amdanoch chwi, am yr holl lawenydd yr ydym yn ei deimlo o'ch plegid gerbron ein Duw? 10Yr ydym yn deisyf yn angerddol, nos a dydd, am gael gweld eich wyneb a chyflenwi diffygion eich ffydd.
11Bydded i'n Duw a'n Tad ei hun, a'n Harglwydd Iesu, gyfeirio ein ffordd atoch! 12A chwithau, bydded i'r Arglwydd beri ichwi gynyddu, a rhagori mewn cariad tuag at eich gilydd a thuag at bawb, fel yr ydym ni tuag atoch chwi, 13i gadarnhau eich calonnau, fel y byddwch yn ddi-fai mewn sancteiddrwydd gerbron ein Duw a'n Tad yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda'i holl saint! Amen.

Currently Selected:

1 Thesaloniaid 3: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy