YouVersion Logo
Search Icon

1 Cronicl 29

29
Rhoddion at Adeiladu'r Deml
1Dywedodd y Brenin Dafydd wrth yr holl gynulleidfa, “Y mae fy mab Solomon, a ddewiswyd gan Dduw, yn ifanc a dibrofiad, ond y mae'r gwaith yn fawr oherwydd mai palas i'r ARGLWYDD Dduw, ac nid i fod dynol, yw hwn. 2Yr wyf wedi paratoi hyd eithaf fy ngallu ar gyfer tŷ fy Nuw; rhoddais aur ar gyfer popeth aur, arian ar gyfer popeth arian, pres ar gyfer popeth pres, haearn ar gyfer popeth haearn a choed ar gyfer popeth o goed. Rhoddais hefyd feini onyx a meini i'w gosod, meini glas ac amryliw, gemau gwerthfawr o bob math, a llawer o alabastr. 3Hefyd, am fy mod yn ymhyfrydu yn nhŷ fy Nuw, yr wyf wedi rhoi fy nhrysor personol o aur ac arian i dŷ fy Nuw; 4ar ben y cwbl, yr wyf wedi paratoi ar gyfer y cysegr dair mil o dalentau o aur Offir a saith mil o dalentau o arian coeth, i'w rhoi'n haenau ar barwydydd y tai, 5yr aur ar gyfer popeth aur, a'r arian ar gyfer popeth arian, ac ar gyfer holl waith y rhai celfydd. Pwy sy'n barod i ymgysegru o'i wirfodd i'r ARGLWYDD heddiw?”
6Yna rhoddodd arweinwyr y teuluoedd, penaethiaid llwythau Israel, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a swyddogion gwaith y brenin i gyd offrwm gwirfodd. 7Rhoesant at waith tŷ Dduw bum mil o dalentau aur, deng mil o ddariciau, deng mil o dalentau arian, deunaw mil o dalentau pres a chan mil o dalentau haearn. 8Yr oedd pob un a feddai emau gwerthfawr yn eu rhoi yn nhrysordy tŷ'r ARGLWYDD a oedd dan ofal Jehiel y Gersoniad. 9Yr oedd eu haelioni yn achos llawenydd i'r bobl am eu bod yn offrymu i'r ARGLWYDD o'u gwirfodd ac â chalon berffaith. 10Yr oedd y Brenin Dafydd hefyd yn llawen iawn.
Dafydd yn Bendithio'r ARGLWYDD
Bendithiodd yr ARGLWYDD o flaen yr holl gynulleidfa a dweud, “Bendigedig wyt ti, ARGLWYDD Dduw Israel ein tad, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. 11I ti, ARGLWYDD, y perthyn mawredd, gallu, gogoniant, ysblander a mawrhydi; oherwydd y mae popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear yn eiddo i ti; ti, ARGLWYDD, biau'r deyrnas, ac fe'th ddyrchafwyd yn ben ar y cwbl. 12Oddi wrthyt ti y daw cyfoeth ac anrhydedd, a thi sy'n arglwyddiaethu ar bopeth; yn dy law di y mae nerth a chadernid, a thi sy'n rhoi cynnydd a chryfder i bob dim. 13Yn awr, ein Duw, moliannwn di a chlodforwn dy enw gogoneddus. 14Oherwydd pwy wyf fi a'm pobl i fedru rhoi o'n gwirfodd fel hyn? Canys oddi wrthyt ti y daw popeth, ac o'th eiddo dy hun y rhoesom iti. 15Dieithriaid ac alltudion ydym ni yn dy olwg, fel ein holl hynafiaid; y mae ein dyddiau ar y ddaear fel cysgod, a heb obaith. 16ARGLWYDD ein Duw, eiddot ti yw'r holl gyfoeth hwn a phopeth arall a roesom o'r neilltu i adeiladu tŷ iti er anrhydedd i'th enw sanctaidd. 17Gwn, fy Nuw, dy fod yn profi'r galon ac yn ymhyfrydu mewn cyfiawnder. Â chalon uniawn yr offrymais o'm gwirfodd yr holl bethau hyn; ac yn awr gwelais dy bobl sydd wedi ymgynnull yma yn offrymu iti yn llawen ac o'u gwirfodd. 18ARGLWYDD Dduw Abraham, Isaac ac Israel, ein tadau, cadw'r dyhead hwn yng nghalon dy bobl am byth, a thro eu calon atat. 19Rho galon berffaith i Solomon fy mab, iddo gadw dy orchmynion, dy dystiolaethau a'th ddeddfau, a'u gwneud bob un, ac iddo adeiladu'r deml a ddarperais i.”
20Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, “Yn awr bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw.” Yna bendithiodd yr holl gynulleidfa ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid trwy ymostwng ac ymgrymu i'r ARGLWYDD ac i'r brenin. 21Trannoeth aberthasant i'r ARGLWYDD ac offrymu iddo boethoffrymau, sef mil o ychen, mil o hyrddod, mil o ŵyn, ynghyd â'u diodoffrymau a llawer iawn o aberthau dros holl Israel. 22Buont yn bwyta ac yn yfed o flaen yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw â llawenydd mawr. Gwnaethant Solomon fab Dafydd yn frenin yr ail waith, a'i eneinio ef yn arweinydd i'r ARGLWYDD, a Sadoc yn offeiriad. 23Felly eisteddodd Solomon ar orsedd yr ARGLWYDD yn frenin yn lle Dafydd ei dad; cafodd lwyddiant, a bu holl Israel yn ufudd iddo. 24Rhoddodd yr holl swyddogion a'r rhyfelwyr, a phob un o feibion y Brenin Dafydd, wrogaeth i'r Brenin Solomon. 25Dyrchafodd yr ARGLWYDD Solomon yn uchel iawn yng ngolwg holl Israel, a rhoi iddo fawrhydi brenhinol na welwyd mo'i debyg gan unrhyw un o frenhinoedd Israel o'i flaen.
Crynodeb o Deyrnasiad Dafydd
26Teyrnasodd Dafydd fab Jesse ar Israel gyfan am ddeugain mlynedd; 27bu'n frenin am saith mlynedd yn Hebron a thair ar ddeg ar hugain yn Jerwsalem. 28Bu farw'n hen ŵr mewn oedran teg, yn berchen ar gyfoeth ac yn llawn anrhydedd; a theyrnasodd ei fab Solomon yn ei le. 29Y mae hanes y Brenin Dafydd o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu yng Nghronicl Samuel y gweledydd, Cronicl Nathan y proffwyd, a Chronicl Gad y gweledydd; 30yno hefyd ceir hanes ei frenhiniaeth a'i wrhydri, a'r cyfnod yr oedd ef, ac Israel, a holl deyrnasoedd y byd, yn perthyn iddo.

Currently Selected:

1 Cronicl 29: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy