YouVersion Logo
Search Icon

Ebraieit 13

13
Pen. xiij.
1 Y mae ef yn ein anot i gariat, 2 I gadw tuy ir tlodion, 3 I veddwl am gyfryw rei ac a vont mewn advyt. 4 Ar ddal gyd a phriodas. 5 Ar ymogelyd ywrth cupyðdot. 7 Ar wneuthur yn vawr or ei vo yn precethu gair Dew. 9 Ymogelyd rrac dysceideth ddieithr. 13 Bot yn voðlon y ðyoðef cerydd y gyd a Christ. 15 Bot yn ðiolchgar y Ddew, 7 Ac yn uvydd in llywyawdwyr.
1CAriad broduraidd #13:1 * parhaedtriged.
2Na ollyngwch tros gof roddi lletty‐i ddiethred: can ys trwy hynny #13:2 ydir erbyniodd rrai yn ddiarwybod Angylion yw tai.
3Meðyliwch am y rrai sy mewn rrwymay, val pe baech yn rrwym gidag wynt: ar rai y ddydis yn y drygu, val pe ych drygid ych hunain yn y corph.
4 # 13:4 * Anrydeddus Vrddasawl yvv priodas ym hob dyn, ar gwely #13:4 dihalogdilwgr: eithyr y putteinwyr ar ei godinabus Dyw ay barna.
5Bid digybydd ych ymwreðiad, ac ymfodlonwch ac y sydd tan ych llaw, cans ef a ddyvod, ni phallaf yti, ac nis gadawa di chwaith:
6Hyd val y gallō ðoydyt yn hy, Yr Arglwyð ysy yn gymhorth ym, ac nid ofna beth a wnel dyn ymy.
7Meddyliwch am ych #13:7 * arwain, tywys, golygupreladiaid, rrain a draythason i chwi air Dyw: calynwch y ffydd hwynt, trwy ystyr #13:7 beth vupa vn yw diweð y ymwreðiad hwynt.
8Iesu Christ doy, a heddiw, yr vn hefyt ysydd yn dragwyddol.
9Nedwch ych dwyn o amgylch ac amryw, ac a dieithyr ddysceidiaythay: can ys da ydiw cadarnhau yr galon a gras, ac nid a bwydydd, rain ni thyciasont ir rrai a fu yn ymarfer ac wynt.
10May #13:10 * y nikenymi allor or hon ni does audurdod yddyntwy y fwytta rrai sy yn gwasneuthur yn y Tabernacl.
11Can ys yr enifeilaid gwaed yr rrain a ddwg yr archeffeiriad ir #13:11 cyssegrsanteiddle tros bechod, kyrff y y rrain a loskir y tu ollan ir lluestai.
12Ac am hynny #13:12 * ysac Iesu, ir yddo santeiddior bobl trwy y waed y hun, or tu allan ir porth y dioddefodd ef.
13Am hynny awn atto ef or tu allan ir lluestai, gā ddwyn y ddirmig ef.
14O blegid ni does i ni yma ddynas a bery, eithr hon a ddaw y ddym yn i cheisio.
15Offrymmwn o blegid hynny yn estig trwyddo ef y Ddyw aberth moliant, hynny yw, ffrwyth gwefusay, yn cyfadday y Enw ef.
16Nedwch tros gof #13:16 wneuthur dayonifod yn gywaithas a chyfrannu: can ys a chyfryw aberthay y #13:16 * rrengir boddboddheir Dyw.
17Vfyddhewch ych preladiaid, ac ymddarostyngwch: o blegid gwilio y maent #13:17 * artros ych eneidiau chwi, megis rrai a fydd rraid vddynt roi kyfri, mal i gallon wneuthyr hynny yn llawen, ac nid yn drist: can ys dibroffid yw hynny i chwi.
18Gweddiwch trosom ni: can ys may yn siccr kenym, fod y ni gydwybod dda ym‐hob peth, yn chwenychu byw yn onest.
19Y ddwy yn disif arnoch wneuthur hynny beth difrifach, ir mwyn cael yn ebrwyðach fyngollwng attoch.
20Dyw yr heddwch rrwn a ddug trachefn o ddiwrth y meirw eyn harglwyð Iesu, y bigael mawr y defaid, trwy waed yr Amod tragwyddol,
21Ach gwnel yn berffaith ym hob gwaithred ða, y wneuthyr y wollys ef, drwy weithio ynochi yr hyn a fo cymradwy yn y olug ef trwy Iesu grist, ir hwn y bo gogoniant yn oes oesoedd, Amen.
22Y Ddwy yn wir yn disif arnoch, ymrodyr, goðefwch y gair cyngor, o blegid ac ychydig eiriau ydd yscrifenais attoch.
23Gwybyddwch fod ein brawd Tymotheus y ollwng yn rrydd, gidar hwn (odaw e ar fyrder) y do y ymweled a chwi.
24Anherchwch ych preladiaid oll, ar sentiau y gyd. May #13:24 * yr ei orgwyr Ital yn erchi ych annerch,
25Gras a fo gida chwi oll achlan, Amen:
At yr Ebraiaid yr yscrifenwyd yr ebystl hon or Ital trwy Tymotheus.
Xx.iiij.

Currently Selected:

Ebraieit 13: SBY1567

Highlight

Share

Compare

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in