YouVersion Logo
Search Icon

2. Timotheus 1

1
Pen. j.
Paul yn annog Timotheus y vod yn ddianwadal ac yn ddyoddefus wrth ei ymlid, a’ pharhau yn yr athraweth y ðyscesei ef yddaw, 12 Dros yr ei yroedd y rwymeu ef a’i gystyddion ym wystl. 16 Cammolieth Onesiphorus.
1PAul Apostol Iesu Christ gan wyl’ys Duw, erwyð aðewyt #1:1 * bywytbucheð yr hon ’sy yn‐Christ. Iesu.
2At Timothes vy map caredic: Rat, a’ thrugaredd, a’ thangneddyf y gan Ddyw y Tat, a’ chan Iesu Christ ein Arglwydd.
3 Ys diolchaf y Dduw, ’rhwn y wasanaethaf om rrieni a chydwybot bur, can ys eb peidio y may genyf gof am danat yn vy‐gweddieu nos a’ dydd,
4Can ðeisyfu dy welet, a’mi yn vyvyr oth ðaigrae, val im llanwer o lawenydd:
5Pan ’alwyf im cof y ddiffuant ffydd ys ydd ynot, ’rhon y drigawdd yn gyntaf yn dy #1:5 vam‐gunain Lois, ac yn dy vam Euneic, ac y may yn ddiogel genyf y tric yno tithe hefyt.
6Achos paam, ydd wyf ith coffau y gyffroi y dawn Duw ys ydd ynot, wrth arddodiat vy‐dwyaw.
7Can na roðes Duw y ni yspryt ofnusrvvydd, anyd yspryt #1:7 * meddiantnerthovvgrvvydd, a’ chariat, a’ phwyllogrwydd.
8Am hyny na vydd arnat gywilyð #1:8 amo destiolaeth yr Arglwydd, nac o hano vineu y garcharawr ef: eithr cydoddef‐di‐gystuddion yr Euangel, wrth veddiant Duw.
9Yr hwn an iachaoð, ac an galwodd a galwedigaeth sanctaið nyd, wrth ein gweithredoedd ni, anyd wrth y #1:9 * arddodiatbwrpos yhun, a’y rat, ’rhwn a roespwyt y ni trwy Christ Iesu cyn #1:9 bot y bytamseroedd oeseu.
10Eithyr ef a eglurwyt yr owrhon gan ymddangosiat ein Iachawdr Iesu Christ, yr hwn a #1:10 * ddadwnaethðileoð angeu, ac a dduc vywyt ac ac ammarwolaeth i ’olauni trwy’r Euangel.
11Ir hon im gosodwyt i yn precethwr, ac yn Apostol ac yn ddyscyawdr y Cenedloedd.
12Am yr hwn achos y dyoddefaf hefyt y petheu hyn, ac nyd oes arnaf giwilydd: can ys gwn pwy a gredais, ac y mae yn ddilys genyf y vot ef yn abl y gadw yr hyn a ðodais ataw erbyn y dyð hwnw.
13Cadw #1:13 * ffurf, cyffurf, gyndelw, ailunwir esempl yr iachus ymadroddion, yr ei a glyweist y can y vi yn ffydd a’ chariat ys ydd yn‐Christ Iesu.
14Y #1:14 gwiwbethpeth prydverth, y roed atat, cadw trwy’r Yspryt glan, yr hwn a drig ynom.
15 Ti wyddost hyn, ddarvot ir ei oll ys ydd yn Asia, droi o ywrthy vi: o’r sawl rei y mae Phygellus ac Hermogenes.
16Roed yr Arglwydd drugareð y duylu Onesiphorus: can ys ef yn vynych am llonhodd i, a’m catwyn nyd oedd gywilydd ganthaw.
17Eithyr pan oedd yn Ruuein, ef a ymcaisiawdd a mi yn #1:17 * ddyvalddiwyd iawn, ac am cafas.
18 # 1:18 Caniataed Roed yr Arglwydd yddo, gahel o hano drugaredd gyd a’r Arglwydd yn y dydd hwnw, a’ pha #1:18 * niuerveint betheu vu ef im gweni yn Ephesus, ti wyddost yn ’oreu vn.

Currently Selected:

2. Timotheus 1: SBY1567

Highlight

Share

Compare

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for 2. Timotheus 1