YouVersion Logo
Search Icon

2. Ioan 1

1
Pen. j.
Scrivennu y mae ef at ryw Arglwyddes, 4 Gan lawenychu vot y phlant hi yn rhodio yn y gwirionedd, 5 Ai hannoc hwy i gariat, 7 Ei rhybudd y ymochelyd o ywrth gyfryw dwyllwyr ac a wadant ddyvot Iesu Christ yn‐cnawt, 8 Y mae yn ervyn yddynt aros yn‐dysceidaeth Christ. 10 Ac na bo yðwynt ðim a wnelont a’r ei ny dducant gwir ddysc Christ Iesu ein Iachawdr.
1YR #1:1 * PrespyterHenafgwr at y ddetholedic Arglwyddes, a’i phlant, yr ein a garaf yn y gwirioneð: ac nyd mivi yn vnic, eithr yr oll ’rei a adnabuont y gwirionedd,
2Er mwyn y gwirionedd ys ydd yn trigio ynom, ac a vydd y gyd a ni yn tragyvyth.
3Bit rrat, gyd a chwi, trugaredd, a’ thangneðyf #1:3 * y ganywrth Ddyw Tat, ac o ddywrth yr Arglwydd Iesu Christ #1:3 Gr. y MapVap y Tat, y gyd gwirionedd a’ chariat.
4Llawen iawn vu genyf, gahel o honaf dy blant yn rrodio yn‐gwirionedd, val yd erbyniasam ’orchymyn gan y Tat.
5Ac yr owrhon yr #1:5 * adolwynervyniaf yt’, Arglwyddes, (nyd mal vn yn yscrivennu gorchymyn newyð yty, eithr yr hwn oedd y ni or dechreuat) bot y ni garu eu gylydd.
6A’ hwn yw’r cariat, bot y ni rodio ar ol y ’orchymynion ef. Hwn yw’r gorchymyn, bot ychwy val y clywsoch or dechreu, rodio ynthaw.
7Can ys llawer o twyllwyr a ddaethant y mevvn ir byt, yr ei ny choffessant ddyvot Iesu Christ yn‐cnawt. Yr hwn ’sy gyfryw, twyllwr yw ac Antichrist.
8Edrychwch arnoch ychunain, na chollom y petheu, y wnaetham, eithyr val yd erbyniom lawn gyfloc.
9Pwy pynac a #1:9 * a dros y gyfraithdrosedda ac nyd erys yn‐dysceideth Christ, nyd oes Dyw #1:9 ganthoyðaw. Yr hwn a erys yn‐dysceidaeth Christ, y mae yðo y Tat a’r Map.
10A’s daw nep atoch, ac eb ddwyn y ddyscedaeth hon, na dderbyniwch ef ir tuy, ac na #1:10 chyferchwch well yddoddywedwch wrtho, #1:10 * La. AueHyn‐pych‐well.
11Can ys yr hwn a ðywet wrtho, Hynpych‐well, ys y cyfrannoc oy weithredoedd drwc ef.
12Cyd bei cenyf lawer o betheu yw scrivennu atoch, er hyny nyd scrivennvvn a phapyr ac #1:12 Gr. melan i.duyinc: eithyr gobeitho ydd vvyf ddyvot atoch, ac ymadrodd geneu yn‐geu, mal y cyflawner ein llawenydd.
13Y mae meibion dy ddetholedic chwaer ith anerch. Amen.

Currently Selected:

2. Ioan 1: SBY1567

Highlight

Share

Compare

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in