Salmau 144
144
SALM 144
Gweddi am fendithion heddwch
Camberwell 65.65.D
1-2Bendigedig fyddo
Duw, fy nghraig a’m caer;
Ef sy’n dysgu ’nwylo
I ryfela’n daer.
Ffrind, gwaredydd, lloches,
Tarian gadarn yw,
A darostwng pobloedd
Danaf a wna Duw.
3-4Beth yw dyn, O Arglwydd,
Iti ei gofio ef?
Beth yw pobloedd daear
I gael nawdd y nef?
Tebyg iawn i anadl
Ydyw einioes dyn;
Cysgod yw ei ddyddiau’n
Darfod bob yr un.
5-8Agor di y nefoedd,
Arglwydd; tyrd i lawr;
Saetha fellt nes tanio
Y mynyddoedd mawr.
O’th uchelder achub
Fi o’r dyfroedd dyfn
Ac o law estroniaid
A’u celwyddau llyfn.
9-11Arglwydd, gyda’r dectant
Canaf iti gân.
Fe achubaist Ddafydd
Rhag y cleddyf tân.
Achub finnau, Arglwydd,
Gwared fi yn awr
O law yr estroniaid
A’u celwyddau mawr.
12-13Bydded gryf ein meibion
Fel planhigion gardd;
Fel pileri palas
Boed ein merched hardd.
Boed ein hysguboriau
Oll yn llawn o ŷd;
Bydded defaid filoedd
Yn ein caeau i gyd.
14-15Boed ein gwartheg cyflo
Oll yn drymion iawn.
Na foed gwaedd o ddychryn
Ar ein strydoedd llawn.
Gwyn eu byd y bobl
Sydd fel hyn byth mwy –
Y bobl y mae’r Arglwydd
Yn Dduw iddynt hwy.
Currently Selected:
Salmau 144: SCN
Highlight
Share
Copy

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Gwynn ap Gwilym 2008