1
Mathew 25:40
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
BCND
A bydd y Brenin yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.’
Compare
Explore Mathew 25:40
2
Mathew 25:21
‘Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon,’ meddai ei feistr wrtho, ‘buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.’
Explore Mathew 25:21
3
Mathew 25:29
Oherwydd i bawb y mae ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon, ond oddi ar yr hwn nad oes ganddo fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo.
Explore Mathew 25:29
4
Mathew 25:13
Byddwch wyliadwrus gan hynny, oherwydd ni wyddoch na'r dydd na'r awr.
Explore Mathew 25:13
5
Mathew 25:35
Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i'ch cartref
Explore Mathew 25:35
6
Mathew 25:23
Meddai ei feistr wrtho, ‘Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon; buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.’
Explore Mathew 25:23
7
Mathew 25:36
bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch â mi, bûm yng ngharchar a daethoch ataf.’
Explore Mathew 25:36