YouVersion Logo
Search Icon

Bible Versions

Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o lyfr Gweddi Ddyddiol 1984

Welsh, Galés

Salmau Pwyntiedig

Mae’r Sallwyr a’r Cantiglau Cymraeg wedi’u seilio ar y Salmau yn argraffiad diwygiedig 1620 o Feibl William Morgan, gan ddefnyddio orgraff fodern 1955. Fe’u bwriadwyd ar gyfer addoliad litwrgaidd Anglicanaidd.

Cantiglau

Yn ogystal â’r salmau mae’r Llyfr Gweddi hefyd yn cynnwys chwe chantigl arall o’r Ysgrythur:

  • Y Gân Fawl a elwir yn “Benedictus Es Domine” o Gân y Tri Llanc Ifanc yn yr Apocryffa adnodau 29-34
  • Gweddi’r Arglwydd o Mathew 6.9-13
  • Cân Mair a elwir y “Magnificat” o Luc 1.46-55
  • Cân Sechareia a elwir y “Benedictus” o Luc 1.68-79
  • Cân Simeon a elwir yn “Nunc Dimittis” o Luc 2.29-32
  • Cân i’r Oen a elwir yn “Dignus Es” o Datguddiad 4.11 a 5.9, 10, 13b

Hanes

Salmau Pwyntiedig yw Salmau sydd wedi’u fformatio gyda marciau neu symbolau i helpu cantorion i ganu neu siantio’r testun yn gywir, gan gynnal rhythm naturiol yr iaith.

Mae Siant Gregoraidd yn arfer hynafol lle roedd salmau’n cael eu canu’n draddodiadol gan gorau o ddynion a bechgyn mewn eglwysi, neu gan fenywod a dynion o urddau crefyddol yn eu capeli. Mae’n arfer a barhaodd yn y traddodiad Anglicanaidd. Defnyddir Salmau Pwyntiedig mewn lleoliadau litwrgaidd, fel yr Hwyrol Gân Anglicanaidd neu’r Gosber Catholig, lle mae’r salmau’n cael eu canu yn hytrach na’u llefaru. 

Pwyntio

Mae’r marciau pwyntio yn tywys y cantorion i baru’r testun â’r alaw, trwy nodi ble mae newidiadau traw yn digwydd. Nodweddion Salmau Pwyntiedig:

  • Slaes (/) – yn dynodi newid mewn nodau cerddorol neu ble mae saib yn digwydd.
  • Seren (*) – yn dynodi saib bach, gan yn aml rannu adnod yn ddwy ar gyfer siantio cytbwys.
  • Dagr (†) – yn nodi saib ychwanegol dewisol ar gyfer anadlu.
  • Dot canol (·) – wedi’i osod oddi mewn i eiriau neu rhwng sillafau, i nodi ble y dylai’r traw newid wrth siantio a ble mae sillafau lluosog yn rhannu un bar cerddorol.

Hawlfraint 

Cafodd y Salmau a’r Cantiglau eu pwyntio i’w defnyddio yn addoliad yr Eglwys yng Nghymru. Fe’u hargraffwyd yn rhifyn 1984 o’r Llyfr Gweddi Gyffredin i’w ddefnyddio yn yr Eglwys yng Nghymru.

Fersiwn Digidol

Cafodd y Salmau Pwyntiedig Cymraeg hyn eu digideiddio gyda chymorth Cymdeithas y Beibl yn 2025, ar gyfer llithiadur digidol yr Eglwys yng Nghymru https://lectionary.churchinwales.org.uk

---

Pointed Psalms

The Welsh Psalter (Y Sallwyr) and Canticles, are based on the Psalms in the 1620 revised edition of William Morgan Bible, using the modern 1955 orthography. They were pointed for Anglican liturgical worship.

Canticles

As well as the psalms, the Prayer Book also includes six other canticles from Scripture:

  • The Song of Praise known as “Benedictus Es Domine” from the Song of the Three Young Men in the Apocrypha verses 29-34
  • The Lord’s Prayer (Ein Tad) from Matthew 6.9-13
  • Mary’s Song known as the “Magnificat” from Luke 1.46-55
  • The Song of Zechariah known as the “Benedictus” from Luke 1.68-79
  • The Song of Simoeon known as “Nunc Dimittis” from Luke 2.29-32
  • A Song to the Lamb known as the “Dignus Es” from Revelation 4.11 and 5.9, 10, 13b

History

Pointed Psalms are psalms which have been formatted with marks or symbols to help singers correctly sing or chant the text, whilst maintaining the natural rhythm of the language.

Gregorian chant is an ancient practice where psalms were traditionally sung by choirs of men and boys in churches, or by women and men of religious orders in their chapels. It is a custom which was continued in the Anglican tradition. Pointed psalms are used in liturgical settings, such as Anglican Evensong or Catholic Vespers, where the psalms are sung rather than spoken.

Pointing

The pointing marks guide the singers to match the text to the melody, by indicating where pitch changes occur. Features of Pointed Psalms:

  • Slash (/) – indicates a change in musical notes or where a pause occurs.
  • Asterisk (*) – signals a slight pause, often dividing a verse into two parts for balanced chanting.
  • Dagger (†) – marks an optional extra pause for breath.
  • Middle dot (·) – is placed within words or between syllables, to mark where the pitch should change when chanting and multiple syllables share a single musical bar.

Copyright

The Psalms and Canticles were pointed for use in worship the Church in Wales. They were printed in the 1984 edition of the Book of Common Prayer for use in the Church in Wales (Y llyfr Gweddi Gyffredin i’w arfer yn Yr Eglwys yng Nghymru).

Digital Edition

These Welsh pointed psalms were digitised with the help of the Bible Society in 2025, for the Church in Wales digital lectionary https://lectionary.churchinwales.org.uk 


The Representative Body of the Church in Wales

SPBWM PUBLISHER

Other Versions by The Representative Body of the Church in Wales