Rhufeiniaid 1

1
Y Cyfarchiad.
1Paul, gwas#1:1 Gr., caethwas, enw mabwysiedig Paul arno ei hun. Hefyd defnyddir ef gan Judas a Phetr. Deilliedig oddiwrth brophwydi yr Hen Destament. Hwn yw yr epistol cyntaf yn yr hwn y defnyddia Paul y term. Crist#1:1 Crist Iesu B. Iesu Grist A א D. Defnyddia Paul Iesu Grist, fel rheol, yn ei Epistolau boreuaf, a Christ Iesu yn y rhai diweddaraf. Iesu, wedi ei alw i fod yn apostol, wedi ei neillduo i efengyl Duw — 2yr hon a rag‐addawodd Efe trwy ei brophwydi#1:2 Yr oedd Moses a Dafydd yn eu plith. Yr oedd yr aberthau a'r seremoniau yn gysgod o hono. “Yn yr Hen, y mae y Newydd yn guddiedig; yn y Newydd y mae yr Hen yn amlwg.” — Awstin. yn yr Ysgrythyrau sanctaidd — 3am ei Fab, yr hwn a aned o hâd Dafydd yn ol y cnawd, 4yr hwn a ddynodwyd#1:4 Orizo, nodi allan, pennodi, deffinio, hyspysu, sefydlu, urdd‐osod. Cafodd Crist ei gydnabod, ei urddasoli fel Mab Duw, yr hyn ydoedd o'r blaen. yn Fab Duw#1:4 Yn ei Fedydd (Mat 3:17); yn ei Weddnewidiad (17:5); yng Nghyffes Petr (16:16); ac yn ei Adgyfodiad (Act 13:32, 33). Gweler Salm 2:7. mewn#1:4 Neu, gyda gallu; yr hwn a nodwyd allan yn Fab Duw gyda nerth anorchfygol. Dangoswyd gallu Dwyfol yn ei Adgyfodiad. gallu yn ol yspryd sancteiddrwydd#1:4 Yn debygol, natur ddwyfol Crist a olygir fel yn wrthgyferbyniol i'r ‘cnawd,’ ei natur ddynol. Ni elwir yr Yspryd Glân yn ‘Yspryd Sancteiddrwydd.’ Yspryd yw Duw, a sanctaidd yw ei natur., trwy#1:4 Llyth., ‘allan o,’ fel canlyniad naturiol ei Adgyfodiad. Adgyfodiad y meirw; sef Iesu Grist ein Harglwydd, 5trwy yr hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth#1:5 Nid ‘y gras o apostoliaeth.’ Dynoda gras yma rodd Duw i bob credadyn; apostoliaeth, ei rodd arbennig i Paul., i ufudd‐dod ffydd ym mhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw ef: 6ym mhlith y rhai yr ydych chwithau hefyd yn alwedigion Iesu Grist: 7At bawb o rai anwyl Duw yn Rhufain, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist#1:7 Y mae yr Apostol yn cyd‐blethu cyfarchiad y Gorllewin ‘gras,’ ‘ffafr’ (Duw), ‘llawenydd,’ âg eiddo y Dwyrain ‘tangnefedd.’ Y mae yr Efengyl a'i gwyneb at y byd, a'i dymuniadau da i bawb. Cyssylltir Duw ac Iesu o dan gwlwm yr un arddodiad. Dengys hyn gydraddoldeb, ac felly, Ddwyfoldeb y Mab..
Dyddordeb Paul yn y Credinwyr yn Rhufain.
8Yn gyntaf#1:8 Nid oes Yn ail, ond y mae yn ddealledig yn adnod 10., yr wyf yn diolch#1:8 Y mae Paul, yn saith o'i Epistolau, yn diolch i Dduw ar gyfrif y rhai yr ysgrifenna attynt. i'm#1:8 ‘Fy Nuw’ gan Paul a Christ yn unig (Eloi, Eloi!). Duw trwy Iesu Grist am#1:8 Am danoch (peri) A B C D; drosoch (huper) G. danoch chwi oll, oblegyd fod eich ffydd yn cael ei chyhoeddi yn yr holl fyd. 9Canys fy nhyst yw Duw, yr hwn wyf yn ei wasanaethu yn fy yspryd yn efengyl ei Fab ef, mor ddibaid yr wyf yn gwneuthur coffa o honoch bob amser yn fy ngweddiau, 10yn deisyf a gawn ryw fodd ryw amser bellach rwydd‐hynt#1:10 Llyth., ‘y caf daith lwyddiannus.’, yn ewyllys Duw#1:10 Ni wyddai y deuai fel carcharor., i ddyfod attoch chwi. 11Canys yr wyf yn hiraethu#1:11 Y mae y ferf (epipothô) yn cynnwys dymuniad am eu gweled a gofid ei fod wedi methu hyd yn hyn. am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn#1:11 Charisma, rhodd neillduol, dawn arbennig, rhagorfraint. Weithiau defnyddir y gair am roddion y Tafodau, Prophwydoliaethau (1 Cor 12). Defnyddir y gair hefyd mewn ystyr helaethach am fendithion yr Yspryd yng Nghrist Iesu (6:23). ysprydol, fel y'ch cadarnhâer; 12hynny yw, fel y'n calonoger ynghyd ynoch chwi, trwy y ffydd sydd yn y naill a'r llall, yr eiddoch chwi a'r eiddof finnau. 13Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod attoch (ond lluddiwyd#1:13 Weithiau gan Satan (1 Thess 2:18), weithiau gan yr Yspryd Glân (Act 16:6, 7); weithiau gan ei deimlad ei hun na ddylai fyned i mewn i faes dynion eraill (15:20–23). fi hyd yn hyn), fel y cawn ryw ffrwyth hefyd ynoch chwithau, megys ag yn y Cenhedloedd eraill. 14Dyledwr ydwyf i Roegiaid ac i Farbariaid#1:14 Yr oedd Paul yn awr yn Corinth, lle yr oedd Groeg yn cael ei llefaru. Dynodai y gair “Barbariad” un na siaradai Roeg. Cyfrifid y Rhufeiniaid hefyd ym mhlith y Groegiaid. Felly, yr oedd Paul yn ddyledwr i'r holl fyd. hefyd, i ddoethion ac i rai anneallus#1:14 Nid ‘annoeth,’ yn ystyr gyffredin y gair. Yma ceir dosraniad yn ol gwrtaith. hefyd. 15Felly, o'm rhan i, awyddus#1:15 Prothumos, parod, ewyllysgar, selog. wyf i efengylu i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain.
Gallu ac Egwyddor yr Efengyl.
16Canys nid oes arnaf gywilydd o'r efengyl#1:16 Crist K L P. Gad. A B א C D G Brnd. [Y llygriad o'r Lladin.], oblegyd gallu#1:16 I'r Rhufeiniwr, prif ymgais yr hwn oedd cyrhaedd gallu, cyflwynir yr Efengyl fel y gallu uwchaf o bawb. Gallu, yma, yn ei ffynnonnell (dunamis). Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a'r sydd yn credu; i Iuddew yn#1:16 Yn gyntaf A א C D [Ln.] [WH.] Ti. Tr. Diw.; gad. B G. gyntaf, hefyd i Roegwr. 17Canys ynddi cyfiawnder#1:17 Nid ei briodoledd ond ei rodd o gyfiawnder, ei drefn Ddwyfol drwy yr hon y maddeuir, y cyfiawnheir, ac y sancteiddir y pechadur, pan yr adferir ef i ddelw Duw, yr hwn sydd Dduw cyfiawn, a sanctaidd, a da. Duw a ddadguddir, o ffydd i ffydd#1:17 Llyth., ‘allan o ffydd i ffydd.’ Ni olyga yr ymadrodd yn gymmaint (1) ffyniant, o radd wanach i radd gryfach, o ffydd; nac (2) o ffydd yr Hen Destament i eiddo'r Newydd; na (3) ffyddlondeb Duw yn cynnyrchu ffydd mewn dyn; ond, yn hytrach, (4) mai ffydd yw yr oll fel ammod sicrhad y cyfiawnder hwn, o'r gwreiddyn i'r blodeuyn, o gychwyniad y bywyd newydd i'w orpheniad. Y mae yn sefyllfa sydd yn dechreu ac yn diweddu mewn ffydd. Nid yw byth yn ymdeithio tuhwnt i ororau ffydd., fel y mae yn ysgrifenedig, Ond y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd#1:17 Gweler hefyd Gal 3:11; Heb 10:38. Llyth., ‘allan o ffydd.’#Hab 2:4.
Sefyllfa Bechadurus y Cenhedloedd.
18Canys dadguddir#1:18 Dadguddir ef nid yn gymmaint mewn cosp ag yn sefyllfa y byd annuwiol. Y peth mwyaf ofnadwy yw, nid fod Duw yn ymweled ag ef i'w gospi, ond yn ei roddi i fyny. digofaint Duw, o'r nef, yn erbyn pob annuwioldeb#1:18 Pechod yn erbyn Duw. ac annghyfiawnder#1:18 Pechod yn erbyn dyn. Y mae y blaenaf yn gwadu hanfod, y mae yr ail yn anufuddhau i ewyllys Duw. Torrant y ddau Orchymmyn Cyntaf. dynion, y rhai sydd yn attal#1:18 Katechô. Dau ystyr: (1) dàl yn dyn, dàl gafael, meddiant (1 Cor 9:2; 1 Thess 5:21); (2) dàl yn ol, gwasgu i lawr, llethu, rhwystro. y gwirionedd mewn annghyfiawnder. 19Canys yr hyn sydd wybyddus am Dduw sydd hyspys yn eu plith#1:19 Neu, ynddynt, yn eu deall a'u cydwybodau., canys Duw a'i hyspysodd iddynt. 20Canys ei anweledig#1:20 Ei briodoleddau amryfal a gogoneddus, y rhai a gyfansoddant ei natur. bethau ef, o greadigaeth y byd#1:20 Neu, ‘a welir oddiwrth greadigaeth y byd,’ fel ffynnonnell gwybodaeth., a welir#1:20 Kathoratai, a welir dan, ‘a edrychir i lawr arnynt,’ fel o dan lygaid y sylwedydd; felly ‘yn amlwg’ ac ‘eglur.’ yn amlwg, gan gael eu canfod trwy y pethau a wnaed#1:20 Mewn Rhagluniaeth yn gystal ag yn y Greadigaeth., sef ei fythol#1:20 Aidios, bythol. Yma a Judas 6 yn unig yn y T. N. allu#1:20 Dadguddiodd Duw ei hun ar y cyntaf fel El Shaddai (Ex 6:3). ‘Yr Hollalluog.’ a'i Ddwyfoldeb; fel y maent hwy yn ddiesgus#1:20 Neu, ‘fel y byddont yn ddiesgus.’. 21Oblegyd, a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megys Duw, ac ni roddasant ddiolch; eithr hwy a wnaed#1:21 Y mae y berfau yn y goddefol. Dygwyd hwynt ymaith megys â llifeiriant annuwioldeb. ‘Aethant’ ac hefyd ‘gwnaed hwy’ yn ynfyd, yn ystyr foesol y gair. yn ofer yn eu hymresymiadau, a thywyllwyd eu calon anneallus. 22Gan honni eu bod yn ddoethion, hwy a wnaed#1:22 Y mae y berfau yn y goddefol. Dygwyd hwynt ymaith megys â llifeiriant annuwioldeb. ‘Aethant’ ac hefyd ‘gwnaed hwy’ yn ynfyd, yn ystyr foesol y gair. yn ynfydion; 23ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig#1:23 Neu, anfarwol — marwol. Dduw am#1:23 Llyth., yn (gan ddylyn yr Hebraeg be). Mor isel y syrthiasant! Gweled Duw yn y pethau hyn! gyffelybiaeth llun dyn llygredig#1:23 Neu, anfarwol — marwol., ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwar‐carnol, ac ymlusgiaid#1:23 Gweler Salm 106:20. Eilunod Groeg oeddynt ar lun dynion; eiddo yr Aipht, ar lun anifeiliaid, megys yr Apis; adar, fel yr Ibis; ymlusgiaid, fel yr afanc neu y crocodil, a'r sarph.. 24O ba herwydd Duw#1:24 Hefyd D G; gad. א A B C Brnd. a'u traddododd#1:24 Y mae Duw wedi sefydlu cyssylltiad agos rhwng gweithredoedd moesol. “I'r hwn y mae ganddo y rhoddir iddo” yw y ddeddf yn llywodraeth foesol Duw, mewn rhinwedd a drygioni hefyd. hwynt, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, fel yr ammherchid eu cyrph yn#1:24 Yn eu plith א A B C D Brnd.; yn eu plith eu hunain G. eu plith: 25yn gyfryw ag a drawsnewidiasant wirionedd#1:25 Nid yn gymmaint y gwirionedd am Dduw a Duw ei hun, yr hwn sydd Wirionedd. Duw yn y Celwydd#1:25 Enw dansoddol am gyfangorph yr eilunod. Eilun‐addoliaeth yw ‘y Celwydd.’ (Es 28:15; 44:20; Jer 13:25; 16:19)., ac a addolasant#1:25 Yn dangos yspryd crefyddol. ac a wasanaethasant#1:25 Yn golygu addoliad mewn aberthau a seremoniau. y creadur yn hytrach na'r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragywydd. Amen. 26O herwydd hyn traddododd Duw hwynt i wyniau gwarthus#1:26 Llyth., nwydau gwarth.; eu benywod hefyd a drawsnewidiasant yr arfer naturiol i'r hon sydd yn groes i natur: 27ac yn gyffelyb y gwrrywod hefyd, gan adael yr arfer naturiol o'r fenyw, a fflamiasant i fyny yn eu chwant un am y llall, gwrrywod ynghyd â gwrrywod yn gweithredu yr anweddeidd‐dra#1:27 Mor adnabyddus trwy y byd paganaidd. Gweler Dollinger: ‘Y Cenedl‐ddyn a'r Iuddew,’ Llyfr 9. Hefyd weithiau Aristophanes, Plato, Lucian, Martial, Juvenal, &c., ac yn derbyn ynddynt eu hunain y tâl am eu cyfeiliornad, yr hwn oedd ddyledus. 28Ac fel na fu gymmeradwy ganddynt gael Duw yn eu gwybodaeth, traddododd Duw hwynt i feddwl annghymeradwy i wneuthur pethau anweddus: 29wedi eu llenwi a phob annghyfiawnder,#1:29 Godineb L; gad. A א B Brnd., anfadrwydd#1:29 Ponêria, drygioni ar waith, yn methu bod yn llonydd. Felly gelwir y Diafol ho Ponêros, gan ddangos yr hunanoliaeth waethaf, a'r ymgais bennaf i niweidio., trachwant, drygioni#1:29 Kakia a ddengys egwyddor ddrwg ac yspryd maleisus., yn orlawn o genfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drygduedd#1:29 Kakoêtheia a ddengys natur lygredig, y duedd i feddwl drwg a gweithredu yn ei ol.; yn hustyngwyr#1:29 Y rhai a sibrydant ac a niweidiant yn y dirgel., 30yn athrodwyr, yn gashawyr Duw#1:30 Neu, ‘yn gas gan Dduw.’, yn sarhaus, yn feilchion, yn ymffrostwyr, yn ddyfeiswyr drygau, yn anufudd i rieni, 31yn anneallus, yn dorwyr ammod, yn ddiserch,#1:31 Yn annghymodlawn C K L P; gad. A B א D G [o 2 Tim 3:3]., yn annhrugarog; 32yn gyfryw ag yn gwybod ordeiniad#1:32 Dikaiôma, appwyntiad neu ordeiniad cyfiawn, ordinhâd, gosodiad. Duw, fod y rhai sydd yn arfer y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn arfer y cyfryw, eithr hefyd yn cydsynio#1:32 Yn cymmeradwyo, yn canmol. â'r rhai sydd yn eu harfer hwynt.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Rhufeiniaid 1: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้