Yn awr i'r hwn sydd alluog i'ch cadarnhâu yn ol fy efengyl i a phregethiad Iesu Grist, yn ol dadguddiad y dirgelwch a gadwyd mewn dystawrwydd trwy amserau tragywyddol, eithr yn awr a eglurwyd trwy yr Ysgrifeniadau Prophwydol yn ol ordeiniad y tragywyddol Dduw, wedi ei wneuthur yn hysbys i'r holl genhedloedd er ufudd‐dod ffydd, — i'r unig ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist, y byddo y gogoniant yn dragywydd. Amen.