Rhufeiniaid 10
10
1Frodyr, dymuniad fy nghalon a’m deisyfiad ar Dduw drostynt sydd am eu hiachawdwriaeth. 2Canys tystiaf iddynt fod ganddynt sêl dros Dduw, eithr nid yn ôl adnabyddiaeth ohono. 3Oblegid, heb wybod cyfiawnder Duw, a cheisio sefydlu yr eiddynt eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw. 4Canys Crist yw diwedd deddf, er cyfiawnder i bawb a gred. 5Canys ysgrifenna Moses am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf, mai’r dyn a’i gwna a fydd byw trwyddo.#Lef. 18:5. 6Ond y cyfiawnder sydd o ffydd, fel hyn y dywed: Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i’r nefoedd? Hynny yw, i ddwyn Crist i waered; 7neu, Pwy a ddisgyn i’r dyfnder?#Deut. 30:12–14. Hynny yw, i ddwyn Crist i fyny oddi wrth y meirw. 8Eithr beth a ddywed? Agos atat yw’r gair, yn dy enau ac yn dy galon;#Deut. 30:14. hynny yw, y gair am ffydd a gyhoeddwn ni. 9Canys os cyffesi â’th enau Iesu yn Arglwydd, a chredu â’th galon i Dduw ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, achubir di. 10Oherwydd â’r galon y credir er cyfiawnder, ac â’r genau y cyffesir er iachawdwriaeth. 11Canys dywed yr ysgrythur: Pob un a gred ynddo, nis siomir.#Esa. 28:16. 12Nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr, oblegid yr un Arglwydd sydd i bawb, yn gyfoethog tuag at bawb a eilw arno, 13oblegid pob un a alwo ar enw’r Arglwydd a achubir.#Ioel 2:32.
14Pa fodd gan hynny y galwant ar un na chredasant ynddo? A pha fodd y credant mewn un nas clywsant? A pha fodd y clywant heb neb yn cyhoeddi? 15A pha fodd y cyhoeddant onis danfonir? Fel yr ysgrifennwyd: Brydferthed traed efengylwyr pethau da.#Esa. 53:7. 16Eithr nid ufuddhaodd pawb i’r efengyl. Canys dywed Eseias: Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym?#Esa. 53:1. 17Felly ffydd, o glywed y daw, a’r clywed trwy air Crist. 18Ond efallai, meddaf, na chlywsant? Yn wir, do, i’r holl ddaear yr aeth eu sŵn allan, ac i derfynau’r byd eu geiriau.#Salm 19:6. 19Ond efallai, meddaf, na wybu Israel? Yn gyntaf dywed Moses: Paraf i chwi eiddigeddu wrth un nad yw genedl, wrth genedl ddiddeall y paraf i chwi ddigio.#Deut. 32:21. 20Ac Eseias yn hy iawn a ddywed: Cafwyd fi ganddynt hwy na’m ceisient, gwnaed fi yn amlwg iddynt hwy nad ymofynnent â mi. 21Ond am Israel dywed: Trwy gydol y dydd estynnais allan fy nwylo at bobl anufudd a chroes.#Esa. 65:1, 2.
Tällä hetkellä valittuna:
Rhufeiniaid 10: CUG
Korostus
Jaa
Vertaa
Kopioi
Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945