Rhufeiniaid 11
11
1Dywedaf gan hynny, a wrthododd Duw ei bobl? Na ato! Canys Israeliad wyf finnau, o had Abraham, o lwyth Beniamin. 2Ni wrthododd Duw ei bobl#Salm 94:14. a ragadnabu. Oni wyddoch beth a ddywed yr ysgrythur yn “Elïas,” pa fodd yr achwyn ef wrth Dduw ar Israel: 3Arglwydd, lladdasant dy broffwydi, dymchwelasant dy allorau, a myfi yn unig a adawyd, a cheisiant fy mywyd innau.#1 Bren. 19:10. 4Eithr beth a ddywed yr ateb dwyfol iddo? Gadewais i mi fy hun saith mil o wŷr na phlygasant lin i Baal.#1 Bren. 19:18. 5Yr un modd y pryd hwn hefyd ceir gweddill trwy etholedigaeth gras. 6Ond os trwy ras, nid o weithredoedd y mae mwyach; onid e, nid yw gras mwyach yn ras. 7Beth gan hynny? Ni chafodd Israel y peth a gais, ond cafodd yr etholedigion ef, 8a chaledwyd y lleill, fel yr ysgrifennwyd: Rhoes Duw iddynt ysbryd trymgwsg, llygaid fel na welant, a chlustiau fel na chlywant, hyd y dydd hwn.#Esa. 29:10. 9A dywed Dafydd: Bydded eu bord yn rhwyd ac yn fagl, yn dramgwydd ac yn dâl iddynt. 10Tywyller eu llygaid fel na welont, a chryma eu cefn yn wastad.#Salm 69:22. 11Dywedaf gan hynny, “A dramgwyddasant hyd at gwympo”? Na ato! Yn hytrach, trwy eu camwedd hwy y mae iachawdwriaeth i’r cenhedloedd, fel y perir iddynt eiddigeddu.#Deut. 32:21. 12Ac os yw eu camwedd hwy yn olud byd, a’u colled yn olud cenhedloedd, pa faint mwy eu cyfiawnder?
13A chwi sydd genhedloedd y siaradaf. Yn gymaint â’m bod i yn wir yn apostol cenhedloedd, mawrygaf fy ngweinidogaeth, 14os paraf rywfodd i’m cnawd fy hun eiddigeddu, ac achub rhai ohonynt. 15Canys os bu eu gwrthod hwynt yn gymod byd, beth fydd eu derbyn onid bywyd oddi wrth y meirw? 16Ac os sanctaidd y blaenffrwyth, yna’r cyfan;#11:16 Gr., y telpyn toes. ac os sanctaidd y gwreiddyn, yna’r canghennau. 17Ac os torrwyd ymaith rai o’r canghennau, a’th impio di, olewydden wyllt, yn eu plith, a’th wneuthur yn gyfrannog o’r gwreiddyn, braster yr olewydden, 18nac ymffrostia yn erbyn y canghennau; ac os ymffrosti, nid tydi sy’n cynnal y gwreiddyn, ond y gwreiddyn dydi. 19Dywedi felly, “Torrwyd ymaith ganghennau fel yr impid fi i mewn.” 20Purion! O achos anghrediniaeth y torrwyd hwy ymaith, ac o achos ffydd y sefi dithau. Na fydd uchelfryd, eithr ofna. 21Canys os Duw nid arbedodd y canghennau naturiol, ni’th arbed dithau chwaith. 22Gwêl gan hynny diriondeb a llymder Duw: atynt hwy a gwympodd, llymder; ond atat ti, tiriondeb Duw, os glyni wrth ei diriondeb; onid e, torrir dithau ymaith. 23A hwythau hefyd, oni lynant wrth eu hanghrediniaeth, a impir i mewn; canys y mae Duw yn abl i’w himpio i mewn drachefn. 24Felly os torrwyd di ymaith o’r olewydden wyllt wrth naturiaeth, a’th impio yn erbyn naturiaeth mewn olewydden dda, pa faint mwy yr impir y canghennau naturiol hyn yn eu holewydden eu hunain? 25Canys ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, y dirgelwch hwn (rhag i chwi fod yn gall yn eich tyb eich hunain), mai o ran y daeth caledwch ar Israel, hyd oni ddelo cyflawnder y cenhedloedd i mewn, 26ac felly achubir holl Israel, fel yr ysgrifennwyd: Daw allan o Seion Un a wared, try ymaith bob annuwioldeb oddi wrth Jacob. 27Ac yn hyn y daw fy nghyfamod â hwynt i ben, pan dynnwyf ymaith eu pechodau.#Esa. 59:20, 21. 28O ran yr efengyl, gelynion ydynt er eich mwyn chwi, ond o ran yr etholedigaeth, anwyliaid er mwyn y tadau. 29Canys di-droi-yn-ôl yw doniau a galwad Duw. 30Canys, megis yr anufuddhasoch chwi gynt i Dduw, ond yn awr a gawsoch drugaredd drwy anufudd-dod y rhai hyn, 31yr un modd yn awr yr anufuddhaodd y rhai hyn hefyd, fel trwy ei drugaredd i chwi y caent hwythau yn awr drugaredd. 32Canys cyd-gaeodd Duw bawb mewn anufudd-dod fel y trugarhâi wrth bawb. 33O ddyfnder golud, doethineb, a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy ei farnau ac anolrheinadwy ei ffyrdd! 34Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd? Neu, pwy a fu gynghorwr iddo?#Esa. 60:13. 35Neu, pwy a roes iddo yn gyntaf, ac y telir yn ôl iddo?#Job 41:11. 36Oblegid ohono, a thrwyddo, ac iddo, y mae popeth. Iddo ef y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Tällä hetkellä valittuna:
Rhufeiniaid 11: CUG
Korostus
Jaa
Vertaa
Kopioi
Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945