1
Rhufeiniaid 10:9
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
CUG
Canys os cyffesi â’th enau Iesu yn Arglwydd, a chredu â’th galon i Dduw ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, achubir di.
Vertaa
Tutki Rhufeiniaid 10:9
2
Rhufeiniaid 10:10
Oherwydd â’r galon y credir er cyfiawnder, ac â’r genau y cyffesir er iachawdwriaeth.
Tutki Rhufeiniaid 10:10
3
Rhufeiniaid 10:17
Felly ffydd, o glywed y daw, a’r clywed trwy air Crist.
Tutki Rhufeiniaid 10:17
4
Rhufeiniaid 10:11-13
Canys dywed yr ysgrythur: Pob un a gred ynddo, nis siomir. Nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr, oblegid yr un Arglwydd sydd i bawb, yn gyfoethog tuag at bawb a eilw arno, oblegid pob un a alwo ar enw’r Arglwydd a achubir.
Tutki Rhufeiniaid 10:11-13
5
Rhufeiniaid 10:15
A pha fodd y cyhoeddant onis danfonir? Fel yr ysgrifennwyd: Brydferthed traed efengylwyr pethau da.
Tutki Rhufeiniaid 10:15
6
Rhufeiniaid 10:14
Pa fodd gan hynny y galwant ar un na chredasant ynddo? A pha fodd y credant mewn un nas clywsant? A pha fodd y clywant heb neb yn cyhoeddi?
Tutki Rhufeiniaid 10:14
7
Rhufeiniaid 10:4
Canys Crist yw diwedd deddf, er cyfiawnder i bawb a gred.
Tutki Rhufeiniaid 10:4