Rhufeiniaid 9

9
1Gwir a ddywedaf yng Nghrist, nid dywedyd celwydd yr wyf, a’m cydwybod yn cyd-dystio â mi yn yr Ysbryd Glân, 2fod i mi ofid mawr a loes dibaid i’m calon. 3Mynnwn fy mod i fy hun yn anathema, wedi fy ngwahanu oddi wrth y Crist, er mwyn fy mrodyr, fy ngheraint yn ôl y cnawd, 4y rhai sy’n Israeliaid: eiddynt hwy y mabwysiad, a’r gogoniant, a’r cyfamodau, a rhoddi’r ddeddf, a’r addoliad, a’r addewidion; 5eiddynt hwy y tadau, ac ohonynt hwy y Crist o ran y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.
6Nid yn unig nid di-rym gair Duw (canys nid Israel bawb sydd o Israel, 7ac nid plant chwaith bawb oblegid eu bod yn had Abraham), yn hytrach, yn Isaac y gelwir i ti had.#Gen. 21:12. 8Hynny yw, nid plant y cnawd sydd blant Duw, ond plant yr addewid a gyfrifir yn had. 9Canys gair addewid yw hwn: Ynghylch y pryd hwn y deuaf, a bydd i Sara fab.#Gen. 18:10. 10Ac nid hynny’n unig, ond Rebecca hefyd, wedi iddi feichiogi o’r un hwnnw, Isaac ein tad ni — 11canys a hwy eto heb eu geni, a heb wneuthur dim da na drwg, fel y safai bwriad Duw mewn etholedigaeth, nid o weithredoedd, eithr ohono ef sy’n galw — 12dywedwyd wrthi: Yr hynaf a wasanaetha’r ieuangaf;#Gen. 25:23. 13fel yr ysgrifennwyd: Jacob a gerais, ond Esau a gaseais.#Mal. 1:2. 14Pa beth gan hynny a ddywedwn? A oes anghyfiawnder gyda Duw? Na ato! 15Canys dywed wrth Moses: Trugarhaf wrth bwy bynnag y trugarhawyf, a thosturiaf wrth bwy bynnag y tosturiwyf.#Ecs. 33:19. 16Felly, nid bod ewyllysio, na bod rhedeg, ond bod Duw yn trugarhau. 17Canys dywed yr ysgrythur wrth Pharao: I’r union beth hwn y cyfodais di, fel yr arddangoswn ynot fy ngallu, a chyhoeddi fy enw trwy’r holl ddaear.#Ecs. 9:16. 18Am hynny wrth y neb a fynno y trugarha, a’r neb a fynno a galeda. 19Dywedi wrthyf, felly, “Paham y beia mwy? Oherwydd pwy a saif yn erbyn ei bwrpas ef?” 20Yn hytrach, ddyn, pwy wyt ti sy’n rhoi ateb yn ôl i Dduw? A ddywed y peth a luniwyd wrth ei luniwr,#Esa. 45:9. “Paham y gwnaethost fi fel hyn?” 21Onid oes i’r crochenydd awdurdod ar y clai,#Ier. 18:6. i wneuthur o’r un telpyn, un yn llestr i barch, a’r llall i amarch? 22Ond os Duw, yn ewyllysio arddangos ei ddigofaint ac amlygu ei allu, a oddefodd mewn hirymaros mawr lestri digofaint,#Ier. 50:25. wedi eu cymhwyso i ddinistr,#Esa. 54:16. 23oni bu#9:23 Ychwanegiad yw’r geiriau, oni bu. hefyd fel yr amlygai olud ei ogoniant tuag at lestri trugaredd, a ragbaratôdd i ogoniant, 24sef nyni, a alwodd ef hefyd, nid yn unig o blith Iddewon, eithr o blith cenhedloedd yn ogystal? 25Megis y dywed hefyd yn Hosea: Galwaf y rhai nad ydynt bobl i mi fy mhobl, a honno nad anwylwyd yn annwyl; 26ac yn y lle y dywedwyd wrthynt, “nid fy mhobl ydych chwi,” yno y gelwir hwy yn feibion Duw byw.#9:26 Hos. 1:10. 27A llefa Eseias am Israel: Pe bai rhif meibion Israel fel tywod y môr, y gweddill a achubir; 28canys cyflawna’r Arglwydd ei air ar y ddaear, yn llwyr a therfynol.#Ecs. 10:22. 29Ac, fel y dywedodd Eseias o’r blaen: Pe ni adawsai Arglwydd y Sabaoth i ni had, fel Sodom y buasem, ac fel Gomorra y gwnaethid ni.#Esa. 1:9.
30Pa beth, gan hynny, a ddywedwn? Darfod i genhedloedd na ddilynent gyfiawnder gael gafael ar gyfiawnder, a hwnnw’n gyfiawnder trwy ffydd; 31ond Israel, er dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd mo’r ddeddf. 32Paham? Oherwydd iddi ddilyn, nid drwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd. Tramgwyddasant wrth y maen tramgwydd, 33fel yr ysgrifennwyd: Wele, gosodaf yn Seion faen tramgwydd a chraig rhwystr, a’r neb a gred ynddo, nis siomir.#Esa. 8:14, 28:16.

Tällä hetkellä valittuna:

Rhufeiniaid 9: CUG

Korostus

Jaa

Vertaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään