1
Rhufeiniaid 6:23
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
CUG
Canys cyflog pechod, marwolaeth yw, ond dawn Duw, bywyd tragwyddol yw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Vertaa
Tutki Rhufeiniaid 6:23
2
Rhufeiniaid 6:14
canys ni bydd pechod yn feistr arnoch chwi, oblegid nid ydych dan ddeddf ond dan ras.
Tutki Rhufeiniaid 6:14
3
Rhufeiniaid 6:4
Claddwyd ni gydag ef felly trwy fedydd i farwolaeth, fel, megis y cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau mewn newydd-deb bywyd.
Tutki Rhufeiniaid 6:4
4
Rhufeiniaid 6:13
ac na chyflwynwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod, ond cyflwynwch eich hunain i Dduw, megis o farw yn fyw, a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw
Tutki Rhufeiniaid 6:13
5
Rhufeiniaid 6:6
gan ddeall hyn, ddarfod cyd-groeshoelio ein hen ddyn ni, fel y dirymer ein corff pechadurus, fel na byddom gaeth i bechod mwyach.
Tutki Rhufeiniaid 6:6
6
Rhufeiniaid 6:11
Yr un modd, chwithau, cyfrifwch eich hunain yn farw i bechod, ond yn fyw i Dduw yng Nghrist Iesu.
Tutki Rhufeiniaid 6:11
7
Rhufeiniaid 6:1-2
Beth ynteu a ddywedwn? A ydym i lynu wrth bechod fel y cynyddo gras? Na ato! A ni wedi marw i bechod, pa fodd mwyach y byddwn byw ynddo?
Tutki Rhufeiniaid 6:1-2
8
Rhufeiniaid 6:16
Oni wyddoch am bwy bynnag y cyflwynwch chwi eich hunain iddo yn gaethion i ufudd-dod, eich bod yn gaethion i’r neb yr ufuddhewch iddo, naill ai pechod i farwolaeth, neu ufudd-dod i gyfiawnder?
Tutki Rhufeiniaid 6:16
9
Rhufeiniaid 6:17-18
Ond diolch i Dduw! caethion pechod oeddech, ond ufuddhasoch o galon i batrwm dysgeidiaeth y traddodwyd chwi iddo, ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod caethiwyd chwi i gyfiawnder.
Tutki Rhufeiniaid 6:17-18