1
Rhufeiniaid 7:25
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
CUG
Diolch i Dduw trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Am hynny, ynteu, yr wyf fi fy hun, o ran y meddwl, yn gaeth i ddeddf Duw, ond o ran y cnawd, i ddeddf pechod.
Vertaa
Tutki Rhufeiniaid 7:25
2
Rhufeiniaid 7:18
Canys gwn na chartrefa ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd i, ddim da. Canys ewyllysio sydd barod gennyf, ond cyflawni’r da, nid yw.
Tutki Rhufeiniaid 7:18
3
Rhufeiniaid 7:19
Oherwydd y peth da a ewyllysiaf ni wnaf, ond y peth drwg nad ewyllysiaf a wnaf.
Tutki Rhufeiniaid 7:19
4
Rhufeiniaid 7:20
Ond os y peth nad ewyllysiaf a wnaf, nid myfi mwyach a’i cyflawna, ond pechod, yr hwn sy’n cartrefu ynof fi.
Tutki Rhufeiniaid 7:20
5
Rhufeiniaid 7:21-22
Caf felly yn ddeddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur y peth sy dda, mai’r peth sy ddrwg sydd barod gennyf; canys cyd-ymhyfrydaf â deddf Duw yn ôl y dyn oddi mewn
Tutki Rhufeiniaid 7:21-22
6
Rhufeiniaid 7:16
Ond os y peth nad ewyllysiaf a wnaf, cydsyniaf â’r ddeddf ei bod yn dda.
Tutki Rhufeiniaid 7:16