Rhufeiniaid 6
6
1Beth ynteu a ddywedwn? A ydym i lynu wrth bechod fel y cynyddo gras? 2Na ato! A ni wedi marw i bechod, pa fodd mwyach y byddwn byw ynddo? 3Ai heb wybod yr ydych am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, mai i’w farwolaeth y bedyddiwyd ni? 4Claddwyd ni gydag ef felly trwy fedydd i farwolaeth, fel, megis y cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau mewn newydd-deb bywyd. 5Canys os tyfasom yn un â chyffelybrwydd ei farwolaeth, byddwn felly hefyd â chyffelybrwydd#6:5 Ychwanegiad yw’r geiriau, a chyffelybrwydd. ei atgyfodiad, 6gan ddeall hyn, ddarfod cyd-groeshoelio ein hen ddyn ni, fel y dirymer ein corff pechadurus,#6:6 Gr., corff o bechod. fel na byddom gaeth i bechod mwyach. 7Oblegid y mae’r marw yn rhydd oddi wrth bechod. 8Ac os buom farw gyda Christ, yr ydym yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef, 9am y gwyddom nad yw Crist, ac yntau wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn marw mwy; nid yw marwolaeth yn feistr arno mwy. 10Canys am ei farw, i bechod y bu farw unwaith, ond am ei fyw, byw y mae i Dduw. 11Yr un modd, chwithau, cyfrifwch eich hunain yn farw i bechod, ond yn fyw i Dduw yng Nghrist Iesu. 12Gan hynny, na theyrnased pechod yn eich corff marwol, i ufuddhau i’w chwantau, 13ac na chyflwynwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod, ond cyflwynwch eich hunain i Dduw, megis o farw yn fyw, a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw; 14canys ni bydd pechod yn feistr arnoch chwi, oblegid nid ydych dan ddeddf ond dan ras.
15Beth gan hynny? A ydym i bechu, oblegid nad ydym dan ddeddf ond dan ras? Na ato! 16Oni wyddoch am bwy bynnag y cyflwynwch chwi eich hunain iddo yn gaethion i ufudd-dod, eich bod yn gaethion i’r neb yr ufuddhewch iddo, naill ai pechod i farwolaeth, neu ufudd-dod i gyfiawnder? 17Ond diolch i Dduw! caethion pechod oeddech, ond ufuddhasoch o galon i batrwm dysgeidiaeth y traddodwyd chwi iddo, 18ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod caethiwyd chwi i gyfiawnder. 19Ar wedd ddynol y llefaraf, oherwydd gwendid eich cnawd. Megis y cyflwynasoch eich aelodau yn gaethion i aflendid ac anghyfraith er anghyfraith, felly yn awr cyflwynwch eich aelodau yn gaethion i gyfiawnder er sancteiddrwydd. 20Canys pan oeddech gaethion pechod, rhydd oeddech o ran cyfiawnder. 21Pa ffrwyth, ynteu, oedd i chwi y pryd hwnnw? Pethau y cywilyddiwch yn awr o’u plegid, oblegid diwedd y rheini yw marwolaeth. 22Ond yn awr, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod a’ch caethiwo i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol. 23Canys cyflog pechod, marwolaeth yw, ond dawn Duw, bywyd tragwyddol yw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Tällä hetkellä valittuna:
Rhufeiniaid 6: CUG
Korostus
Jaa
Vertaa
Kopioi
Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945