Deuteronomium 26
26
Cyflwyno’r ffrwythau cyntaf i Dduw
1“Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad mae’r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, ac wedi’i choncro a setlo i lawr ynddi, 2rhowch ffrwyth cyntaf pob cnwd i’r ARGLWYDD. Rhowch e mewn basged, a mynd ag e i’r lle mae’r ARGLWYDD wedi’i ddewis i gael ei addoli. 3Dwedwch wrth yr offeiriad sy’n gwasanaethu bryd hynny, ‘Dw i’n datgan heddiw fy mod i’n byw yn y wlad wnaeth yr ARGLWYDD dy Dduw addo i’n hynafiaid y byddai’n ei rhoi i ni.’
4“Yna bydd yr offeiriad yn cymryd y fasged a’i gosod o flaen allor yr ARGLWYDD. 5Yna rhaid i ti wneud y datganiad yma: ‘Syriad yn crwydro yma ac acw oedd fy hynafiad. Aeth i lawr i’r Aifft a byw yno fel mewnfudwr. Criw bach oedd yn y teulu bryd hynny, ond dyma nhw’n tyfu i fod yn genedl fawr bwerus a niferus. 6Ond dyma’r Eifftiaid yn ein cam-drin ni a’n gormesu ni, a’n gorfodi ni i wneud gwaith caled. 7Felly dyma ni’n galw ar yr ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, am help. Clywodd ni’n galw, a gwelodd mor anodd oedd pethau arnon ni, a’r gwaith caled a’r gorthrwm. 8Felly dyma’r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth rhyfeddol i ddod â ni allan o’r Aifft, a dychryn y bobl yno gyda’r gwyrthiau mwyaf syfrdanol. 9Yna daeth â ni yma, a rhoi’r tir yma i ni. Mae’n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. 10Felly, ARGLWYDD, edrych! Dw i wedi dod â ffrwyth cyntaf cynnyrch y tir rwyt ti wedi ei roi i mi.’ Yna rwyt i’w adael o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw, a’i addoli e. 11Wedyn gelli di a dy deulu, gyda’r Lefiaid a’r mewnfudwyr sydd gyda chi, ddathlu a mwynhau’r holl bethau da mae’r ARGLWYDD eich Duw wedi’u rhoi i chi.
Rhoi degwm y drydedd flwyddyn i’r tlodion
12“Ar ôl casglu un rhan o ddeg o’ch cynnyrch yn y drydedd flwyddyn (blwyddyn y degwm), dych chi i’w roi i’r Lefiaid, y mewnfudwyr, y plant amddifad a’r gweddwon sy’n byw yn eich pentrefi chi, er mwyn iddyn nhw gael digon i’w fwyta. 13Yna rwyt i ddweud wrth yr ARGLWYDD dy Dduw, ‘Dw i wedi casglu’r offrwm sydd i gael ei osod o’r neilltu, ac wedi’i roi i’r Lefiaid, y mewnfudwyr, y plant amddifad a’r gweddwon, yn union fel rwyt ti wedi dweud wrtho i. Dw i ddim wedi torri nac anghofio dy reolau di. 14Dw i ddim wedi bwyta peth ohono pan oeddwn i’n galaru, na’i gymryd pan oeddwn i’n aflan yn seremonïol, na cyflwyno peth ohono’n offrwm i’r meirw. Dw i wedi bod yn ufudd i ti, a gwneud popeth roeddet ti’n ddweud. 15Edrych i lawr arnon ni o’r nefoedd, y lle sanctaidd ti’n byw ynddo, a bendithia dy bobl Israel, a’r tir rwyt ti wedi’i roi i ni, fel gwnest ti addo i’n hynafiaid – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo!’
16“Heddiw, mae’r ARGLWYDD yn gorchymyn i chi gadw’r rheolau a’r canllawiau yma, a gwneud hynny â’ch holl galon ac â’ch holl enaid. 17Heddiw, dych chi wedi datgan mai’r ARGLWYDD ydy’ch Duw chi, ac y gwnewch chi fyw fel mae e eisiau i chi fyw, cadw ei reolau, ei orchmynion a’i ganllawiau, a gwrando arno. 18Heddiw, mae’r ARGLWYDD wedi cyhoeddi mai chi ydy’i bobl e – ei drysor sbesial, fel gwnaeth e addo. Felly dylech gadw’i orchmynion e. 19Duw sydd wedi gwneud y cenhedloedd, ond bydd e’n eich gwneud chi’n fwy enwog na nhw i gyd. Bydd pobl yn eich canmol chi a’ch anrhydeddu chi. Fel gwnaeth e addo, byddwch chi’n bobl wedi’ch cysegru i’r ARGLWYDD eich Duw.”
اکنون انتخاب شده:
Deuteronomium 26: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023