1 Brenhinoedd 17

17
Elias yn cyhoeddi y byddai dim glaw
1Dyma Elias, o Tishbe yn Gilead, yn dweud wrth Ahab, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn fyw (y Duw dw i’n ei addoli), fydd yna ddim gwlith na glaw y blynyddoedd nesaf yma nes i mi ddweud yn wahanol.” 2Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Elias, 3“Dos i ffwrdd i’r dwyrain. Dos i guddio wrth ymyl Nant Cerith yr ochr arall i afon Iorddonen. 4Cei ddŵr i’w yfed o’r nant, a dw i wedi dweud wrth y cigfrain am ddod â bwyd i ti yno.” 5Dyma Elias yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, a mynd i fyw wrth Nant Cerith yr ochr arall i afon Iorddonen. 6Roedd cigfrain yn dod â bara a chig iddo bob bore a gyda’r nos, ac roedd yn yfed dŵr o’r nant.
Elias a’r wraig weddw yn Sareffath
7Ond ar ôl peth amser dyma’r nant yn sychu am ei bod hi heb fwrw glaw yn y wlad o gwbl. 8A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, 9“Cod, a dos i fyw i Sareffath#17:9 Sareffath Tref ar arfordir Môr y Canoldir, tua 10 milltir i’r de o Sidon. yn ardal Sidon. Dw i wedi dweud wrth wraig weddw sy’n byw yno i roi bwyd i ti.” 10Felly dyma Elias yn mynd i Sareffath.
Pan gyrhaeddodd giatiau’r dref gwelodd wraig weddw yn casglu coed tân. Dyma fe’n galw arni, “Plîs wnei di roi ychydig o ddŵr i mi i’w yfed.” 11Wrth iddi fynd i nôl peth dyma fe’n galw ar ei hôl, “Wnei di ddod â rhywbeth bach i mi ei fwyta hefyd?” 12Ond dyma hi’n ateb, “Wir i ti, mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, does gen i ddim byd i ti. Llond dwrn o flawd mewn potyn ac ychydig o olew olewydd mewn jwg sydd gen i ar ôl. Rôn i wrthi’n casglu ychydig o goed tân i wneud un pryd olaf i mi a’m mab. Ar ôl i ni fwyta hwnnw byddwn ni’n llwgu.” 13Ond dyma Elias yn dweud wrthi, “Paid bod ag ofn. Dos i wneud hynny. Ond gwna fymryn o fara i mi gyntaf, a thyrd ag e allan yma. Cei baratoi rhywbeth i ti a dy fab wedyn. 14Achos dyma mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Ddaw’r blawd yn y potyn ddim i ben, a fydd yr olew yn y jar ddim yn darfod nes bydd yr ARGLWYDD wedi anfon glaw unwaith eto.” 15Felly dyma hi’n mynd a gwneud fel roedd Elias wedi dweud wrthi. Ac roedd digon o fwyd bob dydd i Elias ac iddi hi a’i theulu. 16Ddaeth y blawd yn y potyn ddim i ben, a wnaeth yr olew yn y jar ddim darfod, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo drwy Elias.
17Beth amser wedyn dyma fab y wraig oedd biau’r tŷ yn cael ei daro’n wael. Aeth y salwch o ddrwg i waeth, nes yn y diwedd iddo stopio anadlu. 18A dyma’r wraig yn dweud wrth Elias, “Pa ddrwg dw i wedi’i wneud i ti, broffwyd Duw? Wyt ti wedi dod yma i’m cosbi i am fy mhechod a lladd fy mab?” 19Dyma Elias yn ateb, “Rho dy fab i mi.” A dyma fe’n cymryd y bachgen o’i breichiau, a’i gario i fyny i’r llofft lle roedd yn aros, a’i roi i orwedd ar y gwely. 20Yna dyma fe’n galw ar yr ARGLWYDD, “O ARGLWYDD fy Nuw, wyt ti wir am wneud drwg i’r weddw yma sydd wedi rhoi llety i mi, drwy ladd ei mab hi?” 21Dyma fe’n ymestyn ei hun dros y bachgen dair gwaith, a galw ar yr ARGLWYDD: “O ARGLWYDD, fy Nuw, plîs tyrd â’r bachgen yma yn ôl yn fyw!” 22A dyma’r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Elias, a dechreuodd y bachgen anadlu eto. Roedd yn fyw!
23Yna cododd Elias y bachgen a mynd ag e i lawr y grisiau yn ôl i’w fam, a dweud wrthi, “Edrych, mae dy fab yn fyw!” 24A dyma’r wraig yn dweud wrth Elias, “Nawr dw i’n gwybod dy fod ti’n broffwyd#17:24 broffwyd Hebraeg, “dyn Duw”. go iawn, a bod yr ARGLWYDD wir yn siarad trwot ti.”

اکنون انتخاب شده:

1 Brenhinoedd 17: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید