Neges Amos, oedd yn un o ffermwyr defaid Tecoa.
Ddwy flynedd cyn y daeargryn cafodd Amos weledigaethau gan Dduw am Israel. Ar y pryd, roedd Wseia yn frenin ar Jwda, a Jeroboam fab Jehoas yn frenin ar Israel.
Dyma ddwedodd Amos:
“Mae’r ARGLWYDD yn rhuo o Seion,
a’i lais yn taranu o Jerwsalem,
nes bod porfa’r anifeiliaid yn gwywo,
a glaswellt mynydd Carmel yn sychu.”