Canlyniadau Chwilio purity
1 Timotheus 4:12 (BCND)
Paid â gadael i neb dy ddiystyru am dy fod yn ifanc. Yn hytrach, bydd di'n batrwm i'r credinwyr mewn gair a gweithred, mewn cariad a ffydd a phurdeb.
Y Salmau 119:9 (BCND)
Sut y ceidw'r ifanc ei lwybr yn lân? Trwy gadw dy air di.
1 Corinthiaid 6:19 (BCND)
Neu, oni wyddoch fod eich corff yn deml i'r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn sydd gennych oddi wrth Dduw, ac nad yr eiddoch eich hunain mohonoch?
1 Corinthiaid 6:20 (BCND)
Oherwydd prynwyd chwi am bris. Felly gogoneddwch Dduw yn eich corff.
Philipiaid 4:8 (BCND)
Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn.
Y Salmau 51:10 (BCND)
Crea galon lân ynof, O Dduw, rho ysbryd newydd cadarn ynof.
2 Corinthiaid 7:1 (BCND)
Felly, gan fod gennym yr addewidion hyn, gyfeillion annwyl, ymlanhawn oddi wrth bob peth sy'n halogi cnawd ac ysbryd, gan berffeithio ein sancteiddrwydd yn ofn Duw.
1 Thesaloniaid 4:3 (BCND)
Oherwydd hyn yw ewyllys Duw, ichwi gael eich sancteiddio: yr ydych i ymgadw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol;
1 Thesaloniaid 4:4 (BCND)
y mae pob un ohonoch i wybod sut i gadw ei gorff ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch,
2 Timotheus 2:22 (BCND)
Ffo oddi wrth nwydau ieuenctid, a chanlyn gyfiawnder a ffydd a chariad a heddwch, yng nghwmni'r rhai sy'n galw ar yr Arglwydd â chalon bur.
Effesiaid 5:3 (BCND)
Anfoesoldeb rhywiol, a phob aflendid a thrachwant, peidiwch hyd yn oed â'u henwi yn eich plith, fel y mae'n briodol i saint;
1 Thesaloniaid 4:8 (BCND)
Gan hynny, y mae'r sawl sydd yn diystyru hyn yn diystyru neb ond Duw, yr hwn sy'n rhoi ei Ysbryd Glân i chwi.
1 Corinthiaid 6:18 (BCND)
Ffowch oddi wrth buteindra; pob pechod arall a wna rhywun, beth bynnag ydyw, y tu allan i'r corff y mae, ond y mae'r sawl sydd yn puteinio yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.
1 Thesaloniaid 4:5 (BCND)
ac nid yn nwyd trachwant, fel y cenhedloedd nad ydynt yn adnabod Duw;
1 Thesaloniaid 4:7 (BCND)
Oherwydd galwodd Duw ni, nid i amhurdeb ond i sancteiddrwydd.
Y Salmau 119:11 (BCND)
Trysorais dy eiriau yn fy nghalon rhag imi bechu yn dy erbyn.
2 Corinthiaid 10:5 (BCND)
Felly yr ydym yn dymchwel dadleuon dynol, a phob ymhoniad balch sy'n ymgodi yn erbyn yr adnabyddiaeth o Dduw, ac yn cymryd pob meddwl yn garcharor i fod yn ufudd i Grist.
Galatiaid 5:16 (BCND)
Dyma yr wyf yn ei olygu: rhodiwch yn yr Ysbryd, ac ni fyddwch fyth yn cyflawni chwantau'r cnawd.
Galatiaid 5:22 (BCND)
Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.
Galatiaid 5:23 (BCND)
Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain.
Galatiaid 5:24 (BCND)
Y mae pobl Crist Iesu wedi croeshoelio'r cnawd ynghyd â'i nwydau a'i chwantau.
Galatiaid 6:8 (BCND)
Bydd y sawl sy'n hau i'w gnawd ei hun yn medi o'i gnawd lygredigaeth, a'r sawl sy'n hau i'r Ysbryd yn medi o'r Ysbryd fywyd tragwyddol.
Hebreaid 4:16 (BCND)
Felly, gadewch inni nesáu mewn hyder at orsedd gras, er mwyn derbyn trugaredd a chael gras yn gymorth yn ei bryd.
Iago 1:14 (BCND)
Yn wir, pan yw rhywun yn cael ei demtio, ei chwant ei hun sydd yn ei dynnu ar gyfeiliorn ac yn ei hudo.
Iago 1:21 (BCND)
Ymaith gan hynny â phob aflendid, ac ymaith â'r drygioni sydd ar gynnydd, a derbyniwch yn wylaidd y gair hwnnw a blannwyd ynoch, ac sy'n abl i achub eich eneidiau.