Canlyniadau Chwilio mercy
Hebreaid 4:16 (BCND)
Felly, gadewch inni nesáu mewn hyder at orsedd gras, er mwyn derbyn trugaredd a chael gras yn gymorth yn ei bryd.
Iago 2:13 (BCND)
Didrugaredd fydd y farn honno i'r sawl na ddangosodd drugaredd. Trech trugaredd na barn.
Galarnad 3:22 (BCND)
Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD , ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.
Galarnad 3:23 (BCND)
Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb.
Effesiaid 2:4 (BCND)
Ond gan mor gyfoethog yw Duw yn ei drugaredd, a chan fod ei gariad tuag atom mor fawr, fe'n gwnaeth ni,
Effesiaid 2:5 (BCND)
ni oedd yn feirw yn ein camweddau, yn fyw gyda Christ; trwy ras yr ydych wedi eich achub.
Y Salmau 51:1 (BCND)
Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb; yn ôl dy fawr dosturi dilea fy nhroseddau;
Effesiaid 2:8 (BCND)
Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw;
Luc 6:36 (BCND)
Byddwch yn drugarog fel y mae eich Tad yn drugarog.
Titus 3:5 (BCND)
fe'n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o'i drugaredd ei hun. Fe'n hachubodd ni trwy olchiad yr ailenedigaeth ac adnewyddiad gan yr Ysbryd Glân,
Galarnad 3:24 (BCND)
Dywedais, “Yr ARGLWYDD yw fy rhan, am hynny disgwyliaf wrtho.”
Micha 6:8 (BCND)
Dywedodd wrthyt, feidrolyn, beth sydd dda, a'r hyn a gais yr ARGLWYDD gennyt: dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru teyrngarwch, ac ymostwng i rodio'n ostyngedig gyda'th Dduw.
Y Salmau 51:2 (BCND)
golch fi'n lân o'm drygioni, a glanha fi o'm pechod.
Luc 6:35 (BCND)
Nage, carwch eich gelynion a gwnewch ddaioni a rhowch fenthyg heb ddisgwyl dim yn ôl . Bydd eich gwobr yn fawr a byddwch yn blant y Goruchaf, oherwydd y mae ef yn garedig wrth yr anniolchgar a'r drygionus.
Iago 2:12 (BCND)
Llefarwch a gweithredwch fel rhai sydd i'w barnu dan gyfraith rhyddid.
1 Pedr 1:3 (BCND)
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! O'i fawr drugaredd, fe barodd ef ein geni ni o'r newydd i obaith bywiol trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw,
Rhufeiniaid 9:15 (BCND)
Y mae'n dweud wrth Moses: “Trugarhaf wrth bwy bynnag y trugarhaf wrtho, a thosturiaf wrth bwy bynnag y tosturiaf wrtho.”
Rhufeiniaid 9:16 (BCND)
Felly, nid mater o ewyllys neu o ymdrech ddynol ydyw, ond o drugaredd Duw.
Effesiaid 2:6 (BCND)
Yng Nghrist Iesu, fe'n cyfododd gydag ef a'n gosod i eistedd gydag ef yn y nefolion leoedd,
Hebreaid 4:15 (BCND)
Canys nid archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef â'n gwendidau sydd gennym, ond un sydd wedi ei demtio ym mhob peth, yn yr un modd â ni, ac eto heb bechod.
1 Timotheus 1:16 (BCND)
Ond cefais drugaredd, a hynny fel y gallai Crist Iesu ddangos ei faith amynedd yn fy achos i, y blaenaf, a'm gwneud felly yn batrwm i'r rhai fyddai'n dod i gredu ynddo a chael bywyd tragwyddol.
Galarnad 3:21 (BCND)
Meddyliaf yn wastad am hyn, ac felly disgwyliaf yn eiddgar.
Y Salmau 103:8 (BCND)
Trugarog a graslon yw'r ARGLWYDD , araf i ddigio a llawn ffyddlondeb.
Y Salmau 103:10 (BCND)
Ni wnaeth â ni yn ôl ein pechodau, ac ni thalodd i ni yn ôl ein camweddau.
Y Salmau 103:11 (BCND)
Oherwydd fel y mae'r nefoedd uwchben y ddaear, y mae ei gariad ef dros y rhai sy'n ei ofni;