Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Canlyniadau Chwilio honor

Rhufeiniaid 12:10 (BCND)

Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch.

Diarhebion 21:21 (BCND)

Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwch yn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd.

Philipiaid 2:3 (BCND)

Peidiwch â gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun.

Philipiaid 4:8 (BCND)

Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn.

Colosiaid 3:23 (BCND)

Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, gweithiwch â'ch holl galon, fel i'r Arglwydd, ac nid i neb arall.

1 Pedr 5:6 (BCND)

Ymddarostyngwch, gan hynny, dan law gadarn Duw, fel y bydd iddo ef eich dyrchafu pan ddaw'r amser.

Rhufeiniaid 12:1 (BCND)

Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i'ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol.

Rhufeiniaid 12:9 (BCND)

Bydded eich cariad yn ddiragrith. Casewch ddrygioni. Glynwch wrth ddaioni.

Rhufeiniaid 12:12 (BCND)

Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i weddïo.

Rhufeiniaid 12:15 (BCND)

Llawenhewch gyda'r rhai sy'n llawenhau, ac wylwch gyda'r rhai sy'n wylo.

Rhufeiniaid 12:19 (BCND)

Peidiwch â mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i'r digofaint dwyfol, fel y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl,’ medd yr Arglwydd.”

Rhufeiniaid 12:21 (BCND)

Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni.

1 Corinthiaid 6:19 (BCND)

Neu, oni wyddoch fod eich corff yn deml i'r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn sydd gennych oddi wrth Dduw, ac nad yr eiddoch eich hunain mohonoch?

1 Corinthiaid 6:20 (BCND)

Oherwydd prynwyd chwi am bris. Felly gogoneddwch Dduw yn eich corff.

Y Salmau 46:10 (BCND)

Ymlonyddwch, a deallwch mai myfi sydd Dduw, yn ddyrchafedig ymysg y cenhedloedd, yn ddyrchafedig ar y ddaear.

Diarhebion 3:5 (BCND)

Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD , a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun.

Diarhebion 3:6 (BCND)

Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.

Diarhebion 3:7 (BCND)

Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun; ofna'r ARGLWYDD , a chilia oddi wrth ddrwg.

Luc 14:11 (BCND)

Oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun.”

Ioan 12:26 (BCND)

Os yw rhywun am fy ngwasanaethu i, rhaid iddo fy nghanlyn i; lle bynnag yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwasanaethwr. Os yw rhywun yn fy ngwasanaethu i, fe gaiff ei anrhydeddu gan y Tad.

Mathew 13:57 (BCND)

Yr oedd ef yn peri tramgwydd iddynt. Dywedodd Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei fro ei hun ac yn ei gartref.”

Mathew 15:4 (BCND)

Oherwydd dywedodd Duw, ‘Anrhydedda dy dad a'th fam’, a ‘Bydded farw'n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.’

Mathew 15:8 (BCND)

“ ‘Y mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu â'u gwefusau, ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf;

Marc 6:4 (BCND)

Meddai Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei fro ei hun ac ymhlith ei geraint ac yn ei gartref.”

Ioan 5:23 (BCND)

er mwyn i bawb roi i'r Mab yr un parch ag a rônt i'r Tad. O beidio â pharchu'r Mab, y mae rhywun yn peidio â pharchu'r Tad a'i hanfonodd ef.