Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Stori’r NadoligSampl

The Christmas Story

DYDD 3 O 5

Mab Dafydd

Sut mae dweud wrth dy ddyweddi dy fod yn feichiog gyda Gwaredwr gafodd ei addo gan Dduw? Dyna gwestiwn wnaeth Mair falle ofyn iddi'i hun ar ôl cael y newyddion da. Pan ddaeth Joseff i wybod, fe benderfynodd ddechrau cefnu ar eu perthynas. Ond roedd Duw eisiau cynnwys Joseff yn y stori hon hefyd.



Yn yr Ysgrythurau heddiw, mae Duw yn anfon negesydd at Joseff i dawelu ei feddwl. Mae'r negesydd yn galw Joseff yn “fab Dafydd,” sy'n rhyfedd, oherwydd nid Dafydd yw enw tad Joseff.


Bu Dafydd fyw gannoedd o flynyddoedd cyn Mair a Joseff. Roedd yntau hefyd yn hanu o dref fechan, ac roedd yn byw bywyd cyffredin fel bugail. Ond un diwrnod, anfonodd Duw negesydd i Fethlehem i ddweud wrth Dafydd iddo gael ei ddewis i deyrnasu.



Yn ddiweddarach, addawodd Duw y byddai un o ddisgynyddion Dafydd yn creu teyrnas newydd a gwell a allai fendithio’r byd i gyd. Roedd Dafydd a'i ddisgynyddion yn ddiffygiol ac yn aml yn gwneud dewisiadau niweidiol, a arweiniodd at gwymp eu teyrnas. Roedd y bobl yn gwybod os oedden nhw'n mynd i gael teyrnas newydd a gwell, bod angen Dafydd newydd a gwell arnyn nhw. Felly am genedlaethau, roedd pobl yn aros i “Fab Dafydd” gyrraedd.



Mae hyn yn dod â ni yn ôl at Joseff, un o ddisgynyddion y bugail a ddaeth yn frenin. Roedd Joseff yn amherffaith, fel holl ddisgynyddion eraill Dafydd hyd hynny, ond roedd Mab gwir a di-ffael Dafydd yn dod i'r byd trwy Mair - a ymunodd â theulu Joseff yn wraig iddo. Felly er nad oedd Joseff yn dad biolegol i Iesu, fe gododd Iesu ochr yn ochr â Mair - a darparu cyswllt teuluol â Dafydd.



Cymerodd Joseff Mair i Fethlehem, tref enedigol Dafydd. Ac yno rhoddodd Mair enedigaeth i Iesu, gwir Fab Dafydd. A phwy oedd y bobl gyntaf i ddysgu am Fab Dafydd? Bugeiliaid, wrth gwrs.


Mae stori’r Nadolig yn ein hatgoffa ein bod ni’n rhan o rywbeth mwy na ni ein hunain. Trwy gydol hanes, mae Duw wedi bod yn gweithio gyda phobl i wneud y ddaear yn debycach i'r nefoedd. Roedd gan Dafydd ran i'w chwarae, ac felly hefyd Joseff. Ond mae'r stori'n dal i fynd yn ei blaen, a nawr ein tro ni yw hi.



Felly sut byddwn ni'n dilyn eu hesiampl? Wel, mae un cliw yn y darnau heddiw. Edrycha ar sut mae Joseff yn ymateb i alwad Duw. Fe sylwi ei fod yn gwrando, yn ymddiried ac yn aberthu i helpu eraill. Pan dŷn ni’n gwneud dewisiadau tebyg, dŷn ni’n symud stori Duw ymlaen.


Gweddïa: Annwyl Dduw, diolch i ti am ein gwahodd i'th stori. Dw i'n gwybod bod gennyf ran i'w chwarae i wneud y ddaear yn debycach i'r nefoedd. Felly helpa fi i fod yn ymwybodol o sut rwyt ti'n fy ngalw i wneud gwahaniaeth ym mywydau eraill. Yn enw Iesu, Amen.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

The Christmas Story

Mae i bob stori dro annisgwyl yn y plot - munud annisgwyl sy'n newid popeth. Un o'r digwyddiadau mwyaf annisgwyl yn y Beibl yw Stori'r Nadolig. Dros y pum niwrnod nesaf byddwn yn edrych ar yr un digwyddiad yma wnaeth new...

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.life.church

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd