Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y TreialSampl

Joy for the Journey: Finding Hope in the Midst of Trial

DYDD 5 O 7

Mae Iago yn dweud wrthym am ei ystyried yn lawenydd pur pan fyddwn yn wynebu treialon. Ond beth yw llawenydd? A sut ydyn ni'n dod o hyd iddo yn y treialon hynny?

Treuliais dros fis yn darllen ac ymchwilio i lawenydd yn ddiweddar, ac ar ôl yr astudiaeth honno, wnes i ddod i’r diffiniad syml hwn:

Dŷn ni’n cael lawenydd wrth osod ein GOBAITH yn Iesu a chael ffydd ynddo.

Dŷn ni’n cael llawenydd o fod â ffydd a thrystio yn Nuw, trystio yng nghynllun Duw ar gyfer y treial, a thrystio yn Nuw ar y daith. Nid dim ond trystio ond credu a bod â ffydd ei fod e’n gwybod y darlun mawr ac yn mynd â ni ar y daith i'w bwrpas a'i ogoniant.

Wyt ti'n thrystio yn Nuw â’th dreial? A oes gen ti ffydd ynddo e? Bydd yn onest â thi dy hun.

Dw i'n siarad â llawer o bobl bob wythnos sy'n mynd trwy'r treial o garu person sy'n gaeth. Mae gynnon ni i gyd yr un ofn am ein hanwyliaid: gorddos. Dw i'n credu mai dyna un rheswm pam mae cymaint o famau, tadau a rhai priod yn credu mai brwydr eu hanwyliaid yw eu brwydr nhw i ymladd. Dŷn ni'n ofni y byddan nhw'n gorffen ar y strydoedd ac yn marw!

Y gwir amdani yw bod caethiwed yn dod i ben naill ai mewn adferiad, sefydliadau, neu farwolaeth. Ond hyd yn oed os bydd gorddos yn digwydd, rhaid inni gael ffydd yng nghynllun Duw. Rhaid inni drystio ynddo. Oherwydd yn y trystio hwnnw mae llawenydd.

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Joy for the Journey: Finding Hope in the Midst of Trial

Efallai nad ydyn ni bob amser yn ei weld na'i deimlo, ond mae Duw bob amser gyda ni... hyd yn oed pan fyddwn yn mynd trwy bethau anodd. Yn y cynllun hwn, mae Amy LaRue, Cydlynydd Finding Hope, yn sgwennu o'r galon am frwydr ei theulu ei hun â chaethiwed a sut y torrodd llawenydd Duw drwodd yn eu cyfnod tywyllaf.

More

Hoffem ddiolch i Hope is Alive Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.hopeisalive.net/