Ymarfer y FforddSampl

NOD #1: BOD GYDA IESU
Nid yw'n syndod i Iesu ddechrau ffurfio ei brentisiaid trwy eu galw, “Dewch, dilynwch fi” - i gerdded ochr yn ochr ag e ar y Ffordd..
Gwahoddodd Andreas a'i ffrind i ddod i weld lle'r oedd yn aros. “Felly dyma nhw’n mynd i weld lle roedd yn aros, a threulio gweddill y diwrnod gydag e.” (Ioan 1:39).
Yn Luc 10:39, darllenwn am brentis o’r enw Mair, “eisteddodd hi o flaen yr Arglwydd yn gwrando ar yr hyn roedd e’n ei ddweud.”
Yn ôl Marc 3:13, dyma Iesu’n “galw ato y rhai oedd wedi’u dewis, a dyma nhw’n mynd ato.” Byddai hyn wedi bod yn grŵp o ddwsinau neu hyd yn oed gannoedd o ddilynwyr a dreuliodd gyfnodau hir o amser gyda Iesu. O'r criw hwn o ddisgyblion, dewisodd Iesu 12 ar gyfer hyfforddiant arbennig er mwyn “iddyn nhw fod gydag e”.
Dyma nod cyntaf a phwysicaf y brentisiaeth i Iesu: bod gydag e, i dreulio pob eiliad effro yn ymwybodol o'i bresenoldeb ac yn sylwgar i'w lais. Meithrin agwedd tuag at Iesu fel sylfaen dy fywyd cyfan.
Nid ywdilyn Iesu yn fformiwla tri cham, ond mae yna gamau i’w dilyn. Nid rhaglen mohoni ond dilyniant.
Byddwn yn edrych ar y dilyniant hwn yn y defosiwn heddiw a’r ddau nesaf. Dyma’r trosolwg: Yn gyntaf, tyred i fod gyda Iesu; yn raddol byddi’n dechrau dod yn debygiddo; yn y pen draw, bydd yn ail natur iti - rwyt yn dechrau gwneud y mathau o bethau a wnaeth e'n y byd.
Dŷn ni’n gweld y dilyniant hwn yn hanesion y disgyblion gwreiddiol: Fe dreulion nhw fisoedd neu o bosib flynyddoedd yn ei ddilyn o gwmpas Israel ac yn eistedd wrth ei draed. Yn araf iawn, fe ddechreuon nhw newid, ac yn y diwedd, fe “anfonodd nhw allan” i bregethu (Luc 9:2).
Efallai dy fod di'n newydd i ddilyn Iesu a'th fod yn meddwl, Ble ydw i hyd yn oed yn dechrau? Rwyt ti'n dechrau yma, gyda nod #1: Bod gyda Iesu.
Pan wyt ti’n meddwl am “feithrin ymdeimlad o fod ag Iesu,” beth sy’n dod i’r meddwl? A fyddet ti’n fodlon stopio heddiw am rai munudau ar y tro, a dod â’th feddwl a’th galon yn ôl at bresenoldeb Iesu ynot ti? Sut allet ti wneud hynny'n ymarferol?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Sut un wyt ti’n meddwl wyt ti? Sut un wyt ti’n meddwl fyddi di yn 70, 80, neu 100 oed, pa fath o berson wyt ti'n ei weld ar y gorwel? A yw'r darlun yn dy feddwl yn dy lenwi â gobaith? Neu ofn? Yn y defosiwn hwn, mae John Mark Comer yn dangos i ni sut y gallwn gael ein ffurfio'n ysbrydol i ddod yn debycach i Iesu o ddydd i ddydd.
More
Cynlluniau Tebyg

Hadau: Beth a Pham

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Coda a Dos Ati

Rhoi iddo e dy Bryder

Ymarfer y Ffordd

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
