Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Byw drwy'r Ysbryd: Defosiynau gyda John PiperSampl

Live By The Spirit: Devotions With John Piper

DYDD 2 O 7

Mae'r Ysbryd yn Ein Harwain

Dro ar ôl tro mae'r Ysgrythur yn ein helpu i wneud synnwyr o bosau bywyd: priodasau sy'n chwalu, plant gwrthryfelgar, caethiwed i gyffuriau, cenhedloedd rhyfelgar, dail yn dychwelyd yn y Gwanwyn, dyheadau gwancus ein calonnau, ofn marwolaeth, plant yn cael eu geni, cyffredinolrwydd canmoliaeth a beio, cyffredinrwydd balchder, ac edmygu hunan wadu.


Mae'r Beibl yn cadarnhau ei wreiddiau dwyfol dro ar ôl tro wrth iddo wneud synnwyr o'n profiad yn y byd go iawn ac yn arwain y ffordd tuag at harmoni. Dw i'n gobeithio, felly, mai un o'r dysgeidiaethau dŷn ni'n eu trysori ddigon i farw (a byw!) drosto yw mai'r Ysbryd Glân yw awdur dwyfol pob Ysgrythur.


O, na fydde gynnon ni drwy'r dydd i siarad am oblygiadau hyfryd y ddysgeidiaeth hwn! Mae'r Ysbryd Glân tragwyddol, Ysbryd cariad ac hyfrydwch rhwng y Tad a'r Mab, yw awdur yr Ysgrythur.


  • Felly, mae e'n wir (Salm 119, adnod 142) ac yn gyfan gwbl ddibynnol (Hebreaid, pennod 6, adnod 185).
  • Mae e'n bwerus, yn gweithio ei bwrpas yn ein calonnau (1 Thesaloniaid, pennod 2, adnod 13) ac ddim yn dychwelyd yn wag at yr Un a'i ddanfonodd (Eseia, pennod 55, adnodau 10 i 11
  • Mae e'n bur, fel arian, wedi'i buro mewn ffwrnais, seithwaith (Salm 12, adnod 6).
  • Mae e'n sancteiddio (Ioan, pennod 17, adnod 17).
  • Mae e'n rhoi bywyd (Salm 119, adnodau 37,50,93,107, Ioan, pennod 6, adnod 63, Mathew, pennod 4, adnod 4).
  • Mae e'n gwneud yn ddoeth (Salm 19, adnod 7, Salm 119, adnodau 99 i 100).
  • Mae e'n rhoi llawenydd (Salm 19, adnod 8, Salm 119, adnod 16, 92, 111, 143, 174) ac yn addo gwobr fawr (Salm 19, adnod 11).
  • Mae e'n rhoi nerth i'r gwan (Salm 119, adnod 28) a chysur i'r trallodus (Salm 119, adnod 76) ac arweiniad i'r rhai sydd wedi drysu (Salm 1198, adnod 105) ac iachawdwriaeth i'r rhai sydd ar goll (Salm 119, adnod 155, 2 Timnotheus, [pennod 3, adnod 15).

Mae doethineb Duw yn yr Ysgrythur yn ddi-ben-draw. Os yw'r dystiolaeth yma'n wir, mae'r oblygiadau mor ddwys a phellgyrhaeddol, dylai pob rhan o'n bywyd gael ei ddylanwadu.


Dysga fwy: http://www.desiringgod.org/messages/the-holy-spirit-author-of-scripture


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Live By The Spirit: Devotions With John Piper

7 Darlleniad Defosiynol gan John Piper ar yr Ysbryd Glân

Hoffem ddiolch i John Piper a Desiring God am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.desiringgod.org/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd