Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Taith HabacucSampl

Habakkuk's Journey

DYDD 2 O 6

"Parhad – Cyfarfod Habacuc"

Sylwadau’r Awdur:
1. Pa thema oedd fwyaf amlwg pan ddarllenaist ti Habacuc 1?
Roedd thema gyffredinol, sef “pam y byddai Duw yn caniatáu i ddrygioni oroesi daioni.”

Mae’r cwestiwn hwn yn un sy’n gymaint rhan o fywyd y dyddiau hyn. Pan fyddwn yn edrych ar y byd dŷn ni’n byw ynddo, byddwn yn gofyn y cwestiwn hwn yn aml. Fodd bynnag, a dweud y gwir, nid dyma’r cwestiwn i ofyn, Y cwestiwn gwell yw, beth mae Duw’n ei wneud drwy’r holl ddrygioni yma?

2. Pam wyt ti’n meddwl fod y llyfr hwn wedi’i gwneud hi i mewn i’r Canon? Beth wyt ti’n ei feddwl yw pwrpas Duw ar gyfer y bennod hon?

Pan dw i’n darllen hwn dw i’n sylweddoli ar unwaith fod Habacuc yn cwestiynu Duw am beidio eiriol. Roedd fy meddwl wedi’i dynnu i ddau gyfeiriad: I ddechrau roedd hynny’n symudiad beiddgar ac yn ail, pam oedd e mor feiddgar?

Y bennod hon yw’r darlun o ras a chariad. Fel Cristnogion dŷn ni’n gwybod fod gan Dduw’r dylanwad eithaf dros bopeth sydd, yn neu’n mynd i ddigwydd. Yn hynny o beth, rydyn ni’n teimlo bod cwestiynu pethau nad ydyn ni’n eu deall yn amau awdurdod Duw.

Dyma yw pwrpas y llyfr hwn. Mae’n iawn i gael, a gofyn cwestiynau, hyd yn oed i Dduw. Wnaeth Duw erioed fwriadau i ni dderbyn popeth yn ddifeddwl fel Cristnogion, gan dderbyn popeth. Mae’n iawn i ni ofyn i Dduw pam fod pethau fel maen nhw, a hyd yn oed beth mae e’n ei wneud amdano. Doedd ei ateb i Habacuc ddim yn gynllun manwl: y pwynt i’w wneud oedd bod Duw’n gwybod fod pethau’n edrych yn ddrwg, ond roedd dan ei reolaeth.

3. Beth oedd y pryder yn ystod y cyfnod hwn?
G
Roedd aflonyddwch Civil ymhobman. Roedd cenedl Israel mewn cyfnod o ofn wrth i’r Babiloniaid dyfu mewn nerth. Roedden nhw’n cerdded drwy genhedloedd gan eu cymryd drosodd. Roedd Israel yn poeni mai nhw fyddai nesaf. Roedd Habacuc yn edrych o gwmpas y cenhedloedd cyfagos ac yn dyst i ffyniant a llwyddiant milwrol cenedl yr oedd Israel yn ei hystyried yn fradwrus. Gweld hyn a gwybod bod Israel yn eu golygon a bod Israel yn fwy anghyfiawn na chyfiawn, heb sôn am ddeddfau Duw yn cael eu hesgeuluso tra bod drygioni fel pe bai'n cael ei wobrwyo.

4. Sut mae'n hynny’n trosi i ble rydyn ni nawr?
Roedd ein cenhedlaeth wedi cyrraedd pwynt ble roedd y ffin rhwng da a drwg yn aneglur. Mae ar i fyny fel ar i lawr, ac mae cathod a chŵn yn chwarae â’i gilydd, felly beth sy’n iawn? Pan dy n ni’n edrych o gwmpas mae yna deimlad o fod eisiau cwestiynu, ond dŷn ni ddim yn ofni. I rai, yr ofn i gwestiynu ac i eraill yr ofn o beth yw’r ateb. Yr hyn yw’r wers yw, dos ati a gofyn, ond dylet wybod fod gan Dduw ni yn ei ddwylo ac mae ganddo gynllun. Dŷn ni’n gweld y gelyn yn martsio’n ei flaen ac mae e’n ymosod ar Gristnogion ar hyd a lled y byd, ond mae yna olau i ni. Mae Habacuc fel catalydd ar gyfer ewin gallu ni i siarad yn agored gyda'n Tad. Un rhodd gawsom gan Iesu oedd ein bod yn gallu mynd yn uniongyrchol ato iddo am unrhyw beth unrhyw bryd. Siarada a’th Dad oherwydd mae wastad yn poeni am beth sy’n dy boeni di.

Sialens:
Darllena Habacuc eto a thrïa gweld y neges fel gobaith ar gyfer yr hyn sydd i ddod.

Pan sgwennodd Habacuc hwn gwelodd ffyrdd dinistriol y bobl o’i gwmpas, ac eto methodd droi ar yr Ysgrythur y tyfodd i fyny gyda hi (Genesis, pennod 50, adnod 20) ble mae’n dweud, “Roeddech chi am wneud drwg i mi, ond dyma Duw yn troi'r drwg yn beth da. Roedd arno eisiau achub bywydau llawer o bobl, a dyna dych chi'n weld heddiw.” Dyma oedd eiriau Joseff i’w frodyr. Roedden nhw wedi’i werthu e i fywyd o gaethwasiaeth a phan gawson nhw eu haduno roedden nhw’n poeni ei fod am ddial arnyn nhw, ond chollodd Joseff fyth ei ymddiriedaeth yng nghynllun Duw. Ym mhob sefyllfa drwg mae yna gynllun positif a ddaw ohono, hyd yn oed pan nad ydyn ni’n ei weld.

Am y Cynllun hwn

Habakkuk's Journey

Taith yw'r cynllun yma drwy amseroedd caled gyda Habacuc.

More

Hoffem ddiolch i Tommy L. Camden ll am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://portcitychurch.org/

Cynlluniau Tebyg