Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dy Gamau CyntafSampl

Your First Steps

DYDD 4 O 5

MADDAU

Dydy dewis dilyn Iesu ddim yn dy osod ar lwybr newydd yn unig; mae'n golygu nad yw Duw yn dal dy orffennol yn dy erbyn. Yn syml, mae'n maddau i ti.

Mae cael maddeuant yn brofiad sy'n rhoi cymaint o ryddhad. Mae byw heb gywilydd, na bod yn edifar, yn golygu y gallwn fyw yn ysgafn a chyda rhwyddineb.

A’r rhan orau: does dim rhaid i ti ennill maddeuant Duw; Mae'n ei roi yn rhad ac am ddim.

Er hynny mae dau ofyniad i gael maddeuant.

  1. Mae angen i ti gyfaddef yn ostyngedig bod angen maddau i ti.
  2. Mae angen maddau i eraill.

Allwn ni ddim bod yn dderbynwyr gras anhaeddiannol ac yna dal eraill i gyfrif. Mae cael maddeuant yn golygu dy fod nawr yn rhydd i faddau. Does dim rhaid i ti gadw sgôr mwyach. Mae Duw wedi clirio dy gerdyn sgorio o gamwedd, ac mae'n dy gyfarwyddo i wneud yr un peth.

Po gyntaf y byddi di’n dewis maddeuant, y cynharaf y byddi di’n dod o hyd i ryddid. Bydd fel Iesu: Maddeuodd i ti, nawr rwyt i faddau i eraill.

Ysgrythur

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Your First Steps

Rwyt ti wedi gwneud penderfyniad i ddilyn Iesu, felly beth nesaf? Nid yw'r cynllun hwn yn rhestr gynhwysfawr o bopeth a ddaw gyda'r penderfyniad hwnnw, ond bydd yn dy helpu i gymryd dy gamau cyntaf.

More

Hoffem ddiolch i SoCal Youth Ministries - AG am ddarparu'r cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://youth.socalnetwork.org

Cynlluniau Tebyg