Sicrwydd mewn Adegau o AnsicrwyddSampl

Yn yr oes ddigidol, mae gwybodaeth yn cael ei fwydo i ni’n gyflymach nac erioed.
Mae modd chwilio Google am unrhyw beth, ac fe allet ti ddarllen am bwnc am wythnosau. Gyda chlic o’r llygoden neu dap o dy fys, rwyt yn gallu dysgu popeth mae ei angen am unrhyw beth. Tra dylai hyn fod yn agwedd bositif o’r cyfnod dŷn ni’n byw ynddo, dydy e ddim bob tro. Gyda digonedd o wybodaeth daw digonedd o gamwybodaeth. Newyddion sydd wedi'i gyffroi cymaint fel na allwn ddweud mwyach beth sy'n real a beth sydd ddim.
Mae’r llinell rhwng ffaith a barn wedi’i wneud yn aneglur gan newyddiadurwyr a sianeli newyddion sydd ddim yn chwilio am y gwirionedd fel ti a fi.
Maen nhw’n chwilio am niferoedd
Pan mae gan bobol ofn, wnawn nhw droi at y newyddion. Maen nhw, un ai eisiau cael eu cysuro neu gael gwybodaeth am yr hyn y mae arnyn nhw ofn ohono. Eto, yn llawer rhy aml dŷn ni’n cymryd gair y dyn fel ffaith. Dŷn ni’n darllen, gwrnado a thybio fod beth bynnag sy’n cael ei ddweud, neu wedi’i sgwennu, yn wirionedd, gan fyth feddwl y gall y ffynonellau dŷn ni’n eu defnyddio wedi’u camhysbysu.
Yr unig WIRIONEDD go iawn ydy, ein bod yn gwybod fod Iesu Grist wedi marw dros ein pechodau. Yr unig wirionedd go iawn a wyddwn sydd wedi ei wirio, ei ddyfynnu, a’i gael o ffynhonnell ddibynnol, ydy, y bydd Duw yna ar y dechrau a’r diwedd. Ar gyfer yr agor a’r cau. Ef yw’r awdur a’r golygydd, ac mae ei air e’n derfynol. Does dim i’w orliwio. Does dim gwirionedd nad yw Duw eisoes wedi’i ddadorchuddio.
Dw i ddim yn dweud y dylet stopio darllen y newyddion. I stopio trystio’r rhai hynny o’th gwmpas. Yr hyn dw i’n ei ddweud yw, er gwaetha’r hyn sydd wedi’i adrodd, mae duw’n gwybod yn barod. Dydy cynllun Duw ar dy gyfer ddim yn newid o ganlyniad i weithredoedd dyn. Mae cynlluniau Duw’n sefydlog, ac amodol ar yr hyn sy’n digwydd o’n cwmpas.
Mewn cyfnodau o ansicrwydd, mae Duw’n ddiogel. Er bydd ein cynlluniau’n methu a newid, bydd cynllun Duw ar ein cyfer yn cael ei weithredu.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Yng nghanol ansicrwydd, mae Duw yn sicr! Ymuna â David Villa yn ei gynllun diweddaraf wrth iddo edrych heibio ansicrwydd a negyddiaeth er mwyn cyrraedd rhywbeth mwy.
More
Cynlluniau Tebyg

Rhoi iddo e dy Bryder

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd

Dwyt ti Heb Orffen Eto

Ymarfer y Ffordd

Coda a Dos Ati

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Hadau: Beth a Pham
