'The End of Me" gan Kyle IdelmanSampl

Yn Wan i fod yn Gryf
Yn llyfr Corrie ten Boom Tramp for the Lord, soniodd am ddynes wnaeth hi ei gyfarfod yn Rwsia yn ystod y Rhyfel Oer pan roedd Cristnogion yn cael eu herlid.
Dwedodd Corrie fod y ddynes yn gorwedd ar soffa. Roedd multiple sclerosis wedi effeithio gryn dipyn ar y ddynes. Roedd ei chorff wedi twistio i bob cyfeiriad ac roedd arni angen gobennydd i'w helpu i eistedd i fyny. Roedd hi'n methu symud felly roedd ei gŵr yn treulio'i amser yn edrych ar ei hôl. Yr unig ran roedd ganddi unrhyw reolaeth arno oedd bys yr uwd ar ei llaw dde, a dim arall.
Ond, o, dyna gymaint gafodd hi o'r bys yna. Teipiodd yn ddi-ddiwedd, gan deipio brawddegau a pharagraffau wrth gyfieithu'r Beibl a llyfrau Cristnogol i mewn i'w hiaith hi, Rwsieg.
Sylweddolodd ei gŵr ei bod hi'n cymryd cryn amser iddi deipio - ond yn ei blaen aeth hi, air wrth air, a llyfr wrth lyfr y Beibl.
Ac yna, daeth Corrie ten Boom i ymweld. Edrychodd ar y corff di-lun ar y soffa, ac fe'i llanwyd â thosturi. Yna gweddïodd, "O, Dduw, pam nad wyt yn iachau'r ddynes druenus yma?"
Gwelodd y gŵr gymaint oedd yr ymwelydd wedi'i chyffwrdd, a dwedodd, "Mae gan Dduw bwrpas yn ei salwch. Mae'r heddlu cudd yn gwylio pob Cristion arall yn y ddinas yn cael eu gwylio'n agos gan yr heddlu cudd. Ond am ei bod hi wedi bod mor sâl am gymaint o amser, doedd neb yn cadw llygad arni. Maen nhw'n gadael llonydd i ni, a hi ydy'r unig un all gyfieithu heb gael ei darganfod gan yr heddlu."
Mae'n anghywir i ddweud fod Duw ar waith er gwaethaf ei gwendid. Y gwir amdani yw ei fod wedi'i ogoneddu drwy ei gwendid mewn ffordd bwerus iawn. Fyddet ti, fel fi'n teimlo trueni dros y ddynes yna. Ond, roedd y peth hwnnw oedd yn dinistrio'i bywyd hi, yr hoffem ni weddïo drosto, y peth hwnnw oedd yn achosi gymaint o boen, yn le sanctaidd, ganiataodd i ddynes wan iawn i ddod yn biler o nerth yn nheyrnas Duw.Am y Cynllun hwn

O'i gymryd o ddilyniant Kyle Idelman i "Not A Fan" fe'th wahoddir i ddod o hyd i ddod o hyd i bwynt na allet ti fynd yn is, gan mai wedyn yn unig y gelli di gofleidio sut mae Iesu'n dy drawsnewid.
More