Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!Sampl

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!

DYDD 4 O 6

"Iachawdwriaeth - Rhan Duw a dy ran di"




Mae dy iachawdwriaeth yn dod â dau benderfyniad pwysig at ei gilydd. Yr un cyntaf yw penderfyniad Duw, amser maith yn ôl, i anfon ei Fab i'r byd i fod yn Waredwr i ni. Yr ail yw i dderbyn ei Fab fel DY Waredwr. 




"Haelioni Duw ydy'r unig beth sy'n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu'r peth. Anrheg Duw ydy e! 9 Dych chi'n gallu gwneud dim i'w ennill, felly does dim lle i unrhyw un frolio." Effesiaid 2:8-9




Mae GRAS yn cael ei ddiffinio fel ffafr anhaeddiannol neu heb ei ennill. Gras yw rhan Duw mewn iachawdwriaerth, ac mae'n estyn ei ffafr i ddynoliaeth yn y ffurf o rodd perffaith, Iersu Grist. Drwy'r groes fe wnaeth Iesu dalu'n llawn am ein pechodau. A thrwy Iesu, gras wedi'i bersonoli gan Dduw, does dim angen  unrhyw weithredoedd da gennym, neu allai fyth gael ei dalu gennym. Allwn ni ddim ennill iachawdwriaeth, mae'n rodd rhad ac am ddim i bawb, a does dim angen unrhyw daliad gennym.




Mae FFYDD yn cael ei ddiffinio fel tystiolaeth fod rhywbeth yn bodoli er na ellir ei weld neu ei gyffwrdd yn gorfforol. Mae angen ffydd ar gyfer ein rhan ni merwn iachawdwriaeth, a drwy ffydd, fel gweithred o'n hewyllys, dŷn ni'n dewis ildio ein bywydau i Dduw, drwy wneud Iesu yn Arglwydd ein bywyd.  O dderbyn drwy ffydd gras Duw drwy Iesu Grist, rwyt heb os nac onibai, wedi'th dynghedu i dragwyddoldeb gyda Duw yn y nefoedd. rwyt yn gallu bod yn 100% sicr o'r ffaith hynny!




Er nad yw gweithrewdoedd da yn ennill iachawdwriaeth i ni, mae nhw yna rôl iddyn nhw wrth fyw y bywyd Cristnogol ar ôl derbyn Iesu i'n bywydau., 




"Duw sydd wedi'n gwneud ni beth ydyn ni. Mae wedi'n creu mewn perthynas â'r Meseia Iesu, i ni wneud yr holl bethau da mae e wedi'u trefnu ymlaen llaw i ni eu gwneud." Effesiaid 2:10




Mae gan Dduw bwrpas penodol ar gyfer pob un ohonom, a mae'r manylion gan amlaf rhynddot ti ac ef. Ond mae gan Dduw bwrpas cyffredin ar gyfer ei holl blant, a hynny yw i roi ein ffydd ar waith drwy weothredoedd da. Pan wnawn hyn, rydym yn cyflawni rhan bwysig o gynllun Duw ar gyfer ein bywydau, ac mae gynnon ni'r fraint o adlewyrchu ei gariad i eraill. Mae Iachawdwriaeth yn ddechrau newydd ac yn diwedd ac yn achos dathlu. Rwyt yn greadigaeth newydd wedi dy newid am byth!

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!

Mae'r rhan fwyaf o benderfyniadau mewn bywyd o bwys. Fodd bynnag, un sydd bwysicaf. Os wyt ti'n edrych am ganllaw i ddeall dyfnach o'r penderfyniad hynod hwn - Iachawdwriaeth rhad ac am ddim Duw - cychwyna yma. Dyfyniad ...

More

Hoffem ddiolch i Twenty20 Faith, Inc. am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://www.twenty20faith.org/yvdevtmp

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd