Rheolaeth Amser DwyfolSampl

- Ansicrwydd yn erbyn Sicrwydd
- Allanol yn erbyn Mewnol
- Mewn perthynas â yn erbyn absoliwt
Y celwydd ddaw o’r byd yw bod ein hunaniaeth yn ansicra gellir ei golli neu gall newid unrhyw funud. Y gwir o’r Air Duw yw bod ein hunaniaeth yn sicr yn g Nghrist. Fel mae Galatiaid 3:26 (beibl.net) yn ei ddweud, “Dych chi i gyd yn blant Duw drwy gredu yn y Meseia Iesu.”
Y celwydd ddaw o’r byd yw bod yr hyn sy’n allanol yn pennu ein hunaniaeth. - sut olwg sydd arnon ni, yr hyn dŷn ni’n berchen arno, neu’r safle sydd gynnon ni. Y gwir o’r Beibl yw mai’r hyn dŷn ni’n berchen arno o’n mewn sydd o bwys. Mae Colosiaid 3:12 (beibl.net) yn rhannu y dylai ein cymeriad mewnol fod yn addurn allanol i ni:”.. felly dangoswch chithau dosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar.”
Y celwydd ddaw o’r byd yw mai sail ein hunaniaeth yw cymhariaeth, pa un ai os ydyn ni’n “well” nac yn “waeth” na’r bobl o’n cwmpas. Ond y gwirionedd o’r Ysgrythur yw bod ein hunaniaeth yn absoliwt ac mae beirniadaethau bydol yn golygu dim byd i Dduw. Mae Philipiaid 2:3-4 (beibl.net) yn ei ddweud fel hyn: “Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chi'ch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi'n well na phobl eraill. 4 Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi'ch hunain.”
Wrth iti feddwl am sut wyt ti’n treulio dy amser, wyt ti wedi disgyn i’r trap o feddwl fod dy hunaniaeth yn ansicr, allanol, neu berthnasol?
Os felly, sut wyt ti am ddechrau meddwl yn wahanol am dy hunaniaeth a dechrau gwneud penderfyniadau o le o sicrwydd yn Nuw?
Am y Cynllun hwn

Gall rheoli amser traddodiadol achosi straen pan mai'r nod yw cael bywyd "dan reolaeth" drwy ein cryfder a'n hunanddisgyblaeth ein hunain. Ond mae’r Beibl yn dweud wrthon ni ein bod ni’n cael heddwch a gorffwys pan dŷn ni’n ymddiried ein hamser i Dduw. Yn y cynllun 6 diwrnod hwn, byddi’n dysgu sut mae dull Duw-ganolog o reoli amser yn arwain at dderbyn yr holl ddaioni sydd ganddo ar dy gyfer, gan gynnwys ei lawenydd a'i heddwch.
More