Pan fydd Ffydd yn Methu: 10 Diwrnod o ddod o Hyd i Dduw yng Nghysgod AmheuaethSampl

Mae stori Jacob yn ymladd gyda Duw yn ddarlun hyfryd o’r hyn yw ffydd ddofn. Mae ffydd ddofn yn agos atat, dyfal, bywyd cyfan, chwyslyd, gwaedlyd, weithiau'n lletchwith, a bob amser yn dod i gysylltiad go iawn â Duw. Dydy ffydd ddim yn sgript wedi’i lunio, mae’n fat ymladd. Mae’n golygu cael gwared ar dy holl ofnau, pechodau, ansicrwydd, ac amheuon a mynd benben â Duw. Ac ie, mae’n debygol y byddi di’n cael dy gleisio ac yn baglu. Ond mae’n well i ti fod yn berson go iawn o flaen Duw, yn hytrach na rhyw berson ffug-grefyddol.
Mae ffydd yn golygu bod yn gwbl ymroddedig.
Os wyt ti eisiau ffydd ddofn, nid dim ond ffydd dy rieni, ffrindiau, eglwys, ond ffydd sy’n dy newid di ac yn dy adfywio, yna, does dim ffordd arall....Yn Galatiaid, pennod 6, adnod 16 mae Paul yn dweud, ein bod ni yn, “bobl Dduw.” Mewn geiriau eraill, am fod ein hetifeddiaeth ysbrydol yn llawn o bobol sydd wedi ymladd gyda Duw, yna dŷn ni wedi ein galw i fod yn ymladdwyr hefyd.
Yr unig ffordd y gall y Jacob ynom droi’n bobol Dduw, yr unig ffordd y gall ein ffydd dyfu, yw ein bod yn rhoi ein hunain yn gyfan gwbl i Dduw. Popeth. Ac mae hynny’n cynnwys ein hamheuon. Yn enwedig ein hamheuon. ...
Mae ffydd yn aeddfedu, wrth iddo fynd heibio i’r hyn sy’n saff a rhagweladwy, ac i mewn i’r llefydd tywyll llawn amheuon. Mae ffydd yn gwrthod lleihau dy freuddwydion i faint dy ofnau. Dydy ffydd ddim yn cuddio oddi wrth gwestiynau, ond yn stryglo’n angerddol gyda nhw. ...
Nid stori pobl wnaeth oddef amheuaeth swrth; mae’r cyfan am bobl wnaeth frwydro yn erbyn eu hamheuaeth yn ddidostur. Fe wnaethon nhw ddyheu am rywbeth mwy na dim ond ffydd frysiog, wag, dau-ddimensiwn. Dywedodd Socrates, “Nid yw’r bywyd heb ei archwilio yn werth ei fyw.” Mynnodd awduron ac arwyr y Beibl nad yw'r ffydd sydd heb ei harchwilio yn werth ei chredu.
Pennod ar ôl pennod, adnod ar ôl adnod, roedden nhw’n brwydro’n angerddol, ac yn huawdl â'u Duw. Gwaeddodd eu lleisiau carpiog, "Wna i ddim gadael i ti fynd nes i ti fy mendithio i.” Roeddent yn gwybod y byddai'n galed ac yn ddirdynnol, ond roedd yn werth pob eiliad.
Am y Cynllun hwn

Mae brwydro gyda ffydd ac amheuaeth yn gallu bod yn hynod o unig ac ynysig. Mae rhai’n dioddef mewn tawelwch, tra bod eraill yn cilio o’u ffydd yn gyfan gwbl, gan dybio bod amheuaeth yn anghydnaws â ffydd. Mae Dominic Done yn credu bod hyn yn drasig ac yn hollol anghywir. Mae e’n defnyddio’r Ysgrythur a llenyddiaeth i ddadlau, nid yn unig fod cwestiynu yn normal ond ei fod yn aml yn llwybr tuag at ffydd gyfoethog a bywiog. Cymer olwg ar ffydd ac amheuaeth yn y cynllun 10 diwrnod hwn.
More
Cynlluniau Tebyg

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Coda a Dos Ati

Dwyt ti Heb Orffen Eto

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Rhoi iddo e dy Bryder

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd

Hadau: Beth a Pham

Ymarfer y Ffordd

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw
