Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl

Advent: The Journey to Christmas

DYDD 2 O 25


Dyna beth oedd "Gwyrth y Nadolig"!


Ar ôl i Dduw addo Gwaredwr, dechreuodd ddadlennu gwirionedd penodol am y Brenin oedd i ddod drwy broffwydi. Fwy na 680 o flynyddoedd cyn geni Iesu dywedodd Dduw wrth Eseia y byddai'r Gwaredwr yn cael ei eni o wyryf ac mai Duw fyddai e mewn cnawd. Mae cywirdeb yr un honiad yma'n wyrthiol, yn arbennig o feddwl faint o flynyddoedd bu rhaid i'r byd ddisgwyl i'r addewid hen gael ei gyflawni. Ond, un yn unig yw'r broffwydoliaeth hon o 108, gyflawnwyd yng ngenedigaeth a bywyd Iesu.


Ym 1958 astudiodd a chyfrifodd athro mathemateg ac astroleg, Peter Stoner y tebygolrwydd o'r proffwydoliaethau Meseianaidd yn cael eu cyflawni. Daeth i'r casgliad, y tebygolrwydd o hyd yn oed 8 o'r 108 yn dod yn wir, fyddai un mewn 100,000,000,000,000,000. Hynny yw, un mewn can cwadriliwn. WYTH o'r 108! Mae hyn yn gwneud y Nadolig yn un o'r gwyrthiau arwyddocaol mewn hanes.


Wrth i ni ddathlu'r gwyliau rhyfeddol hwn, meddylia mewn difri am yr annhebygolrwydd o Iesu'n dod i'r byd, fel y proffwydwyd. Mae hi bron yn amhosib i'w ddirnad! Ein hunig ymateb rhesymegol yw addoli - mewn diolchgarwch a syndod. Mae'r Gair yn dweud wrthon ni nad oes terfyn i rym Duw, ac mae'r rhifau hyn yn dystiolaeth o hynny. Mae e'n haeddu ein rhyfeddod.


Gweddi: Dad, rwyt ti'n syfrdanol. Does gen i ddim syniad sut y gwnest ti weu stori Iesu at ei gilydd cyn iddo gael ei eni. Dw i'n synnu at dy rym a daioni annherfynol. Diolch am y wyrth o dy Fab. Helpa fi i beidio colli golwg ar dy fawredd.


Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma.



Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Advent: The Journey to Christmas

Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o ...

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.churchofthehighlands.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd