Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Clywed Llais DuwSampl

Hearing The Voice Of God

DYDD 1 O 11

Darllena adnod heddiw



Mae pob un ohonom wedi sylwi bod ansawdd derbyniad ar ffôn symudol yn amrywio'n fawr iawn. Mae'r un peth yn wir amdanat ti. Rhaid iti fod yn y lle cywir i glywed Duw'n siarad.



Weithiau dŷn ni ddim yn rhoi cyfle i Dduw siarad â ni. Dŷn ni wedi gwneud ein penderfyniad. Dŷn ni eisiau gwneud beth dŷn ni eisiau ei wneud, nid beth mae Duw eisiau i ni ei wneud. Mae'n calonnau wedi caledu, a dŷn ni'n anfodlon gwrando.



Ond os wyt ti eisiau clywed gan Dduw go iawn - a pha grediniwr na fyddai eisiau? - rhaid iti ddeall beth sy'n dy gadw rhag clywed Duw. Mae yna dri rhwystr meddyliol sy'n cadw neges Duw allan.



1. Balchder. Os wyt ti'n meddwl nad oes angen Duw arnat ti'n dy fywyd a gelli di ddelio a phethau dy hun, dwyt ti, fwy na thebyg, ddim yn gwrando am lais Duw. Mae balchder yn dy gadw rhag bod yn agored i'r posibilrwydd fod Duw eisiau dweud rhywbeth wrthot ti.



i'th frifo heddiw. Rhaid iti ollwng gafael, nid am eu bod yn haeddu maddeuant ond am fod angen iti symud 'mlaen â'th fywyd. 2. Ofn. Fedrith lot o bobl ddim clywed Duw yn siarad am fod ganddyn nhw ofn ei glywed yn siarad. Falle dy fod yn meddwl fod clywed llais Duw'n dy wneud yn rhyw fath o ffanatig crefyddol.



3. Chwerwder. Pan wyt ti'n dal gafael i niwed, drwgdeimlad, neu falais, dwyt ti ddim yn mynd i allu clywed llais Duw, am fod dy galon yn galed. Mae wedi oeri a dy wneud yn amddiffynnol, hyd yn oed i gariad Duw.



Mae rhai ohonoch wedi'ch brifo'n ddrwg, pa un ai ddigwyddodd yr wythnos hon neu flynyddoedd yn ôl ac yn dal i ddal gafael ynddo e. Dw i eisiau dweud wrthot ti bod rhaid iti ollwng gafael. Nid er lles neb arall ond er dy les dy hun. Mae'r drwgdeimlad yn dy ladd! Anaf o'th wneud dy hun yw drwgdeimlad sy'n caniatáu pobl o'th orffennol i barhau i'th frifo heddiw. Mae'n rhaid i ti ollwng gafael, nid am fod eu bod nhw'n haeddu maddeuant ond am fod angen iti symud ymlaen â'th fywyd.

Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Hearing The Voice Of God

Wyt ti eisiau clywed gan Dduw? Yn y gyfres hon, mae Parch Rick yn dy helpu i ddeall y rhwystrau sy'n dy gadw rhag clywed Duw a'r newidiadau sydd rhaid i ti eu gwneud yn dy fywyd i adnabod a gwneud ei ewyllys.

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd