Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Dim lle yn y llety
Yn y dyddiau hyn o dechnoleg fodern dŷn ni'n methu dim gyda recordyddion digidol, peiriannau ateb, recordyddion DVD, a chamerâu ffonau. Ond, er bod ein teganau'n ein cadw rhag methu galwad ffôn, mae nhw hefyd yn gallu ein rhwystro rhag methu gwir ystyr y tymor gwyliau.
Gelli weld y Nadolig yn diflannu o flaen dy lygaid, mewn mynydd o bapur lapio, a chael dy hun yn dweud, "Ro'n i mor brysur yn siopa, mor brysur yn mynd hwnt sac yma, fel mod i, dw i'n meddwl wedi methu pwrpas y Nadolig."
Efallai nad yw'n syndod i wybod fod y rhan fwyaf o bobl wedi methu'r Nadolig cyntaf hefyd. Aeth bywyd yn ei flaen i bobl, heb eu bod yn sylwi ar beth oedd yn digwydd ond ychydig droedfeddi i ffwrdd.
Yn Luc, pennod 2, dŷn ni'n cael ein cyflwyno i ŵr y llety nad oedd ag unrhyw amser ar gyfer y Nadolig. Yn y stori boblogaidd hon, gofynnodd Mair a Joseff am ystafell, ond roedd y llety'n llawn.
Yr unig le oedd ganddo ar gyfer yr wraig feichiog yna a'i gŵr ond am ystabl, tamp ac oer - oedd mwy na thebyg yn ogof. Roedd e'n rhy brysur o lawer gyda phethau eraill i fod ag amser ar gyfer y Nadolig.
Mae yna bobl fel hyn yn y byd heddiw. Dŷn nhw ddim o reidrwydd yn gwrthwynebu, na chasáu Duw'n llwyr. Mae nhw'n syml, yn rhy brysur. Dydy Duw a phethau ysbrydol ddim o unrhyw bwys iddyn nhw. Mae eu diddordebau fwy tuag at beth fydd yn eu digoni eu hanghenion corfforol ar y pryd. Roedd gŵr y llety'n rhy brysur i wneud lle i'r Meseia oedd ar ddod.
Gad imi ofyn hyn i ti: wyt ti wedi gwneud lle i Iesu, y Naolig hwn? Os nad wyt, mae dal digon o amser i ailffocysu a gwneud lle i Grist y Nadolig hwn!
Hawlraint © 2011 ganHarvest MinistriesCedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i gymryd o beibl.net.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie
More