Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Rho Ystyr i'th WaithSampl

Give Your Work Meaning

DYDD 1 O 4

Ein dewis ni yw Pwrpas ein Gwaith


Yn Genesis, pennod 37, adnodau 5 i 7 a 9, cafodd Joseff freuddwydion o bwrpas arbennig yn ei fywyd. Mae'n breuddwydio y byddai mewn safle o bŵer fel y byddai ei deulu ei hun yn ymgrymu iddo. Roedd ei frodyr yn ei gasáu fwy fyth ac eisiau cael gwared o'u brawd iau. Pan oedden nhw'n bell o gartref a daeth Joseff allan i weld sut oedden nhw, dyma nhw'n achub ar y cyfle a'i werthu i gaethwasiaeth. Byddai'n hawdd dweud fod Joseff wedi profi trobwynt mawr y nei fywyd.


Cafodd Joseff ei orfodi i weithio fel caethwas mewn gwlad dramor ble nad oedd gan y bobl unrhyw adnabyddiaeth o Dduw, ond allen nhw ddim dwyn oddi arno pa fath agwedd oedd ganddo at ei waith. Wnaeth Joseff ddim gadael i'w rôl ei ddiffinio. Er mai Potiffar oedd ei feistr dewisodd Joseff wasanaethu Duw a gwneud ei orau glas yn ei waith. O ganlyniad rhoddodd Duw lwyddiant iddo ym mhob peth roedd yn ei wneud, a rhoddodd Potiffar ef yng ngofal popeth roedd yn berchen arno.


Mae pob un ohonom yn breuddwydio am y gwaith yr hoffem ei wneud. Efallai fod y gwaith rwyt yn ei wneud ymhell o'r breuddwydion rwyt wedi'i gael. Beth bynnag yw'r sefyllfa, dŷn ni, bob un ohonom ni - yn ymwybodol neu'n anymwybodol - yn dewis beth mae ein gwaith yn ei olygu i ni.

Mae'r hyn mae ein gwaith yn ei olygu i ni yn diffinio'r agwedd sydd gynnon ni ato, ac mae hynny'n effeithio ar sut y gall duw ein defnyddio.


Mae gynnon ni'r rhyddid id ddewis agwedd bositif at ein gwaith. Pan wnawn ni hyn, dŷn ni'n fwy tebygol, nid yn unig o wneud ein gwaith yn dda, ond hefyd ganiatáu i eraill weld Crist ynom ni. Yn y pen draw, mae ein hunaniaeth yng Nghrist, nid ein gwaith. Gofynna i Dduw ddangos ei fwriad tuag at dy waith yn ei deyrnas.


Gweddi:


Dduw Dad, helpa fi i weld fy ngwaith drwy dy lygaid di heddiw. Helpa fi i gofio dy fod yn defnyddio'r holl waith dw i'n ei wneud gyda rhagoriaeth allan o'm cariad tuag atat ti i ddangos cariad Crist i eraill. Boed i'r rheing dw i'n gweithio gyda nhw weld Crist ynof fi heddiw. Yn enw Iesu, Amen.


I Chwilio Ymhellach


Darganfydda sut i ddod o hyd i bwrpas yn ein gwiath mwyaf cyffredin blog Workmatters.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Give Your Work Meaning

Bydd y rhan fwyaf ohonom yn treulio yn treulio 50 y cant o'n bywyd fel oedolyn mewn gwaith. Dŷn ni eisiau gwybod bod yna bwrpas i'n gwaith. Ond mae straen, gofynion a helbulon yn achos i ni edrych ar waith fel rywbeth ca...

More

Hoffem ddiolch i Workmatters am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.workmatters.org/workplace-devotions/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd