Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Adamant gyda Lisa BevereSampl

Adamant With Lisa Bevere

DYDD 3 O 6

Ond mae Duw yn caru pawb, Ond fedrith o ddim caru popeth. Gan fod Duw yn ddiysgog mewn cariad, rhaid iddo hefyd fod yn ddiysgog mewn casineb.


Efallai fod hyn yn edrych fel gwrthddweud, ar yr olwg gyntaf, ond mae hynny am fod ein cymdeithas wedi gwneud cariad yn eilun. Dŷn ni'n gwybod mai Cariad yw Duw, ond ydyn ni wedi gwneud ein syniad o Dduw yn gariad?


Y gwir amdani yw, mae Duw yn casáu yr hyn sy'n dadwneud cariad. Mae'n casáu popeth sy'n rhwygo'n ddau y rhai hynny mae'n ei garu. Dyma pam mae Duw yn casáu'r hyn sy'n gwyrdroi ein hunaniaeth.


Mae'r Gair yn dweud fod Duw hefyd yn casáu: popeth sy'n cyfaddawdu cyfiawnder a gwirione dd, pan fydd gweddwon a'r amddifad yn cael eu gormesu, henoed yn cael eu camdrin a'r teulu yn cael ei esgeuluso. beth bynnag sy'n gwyrdroi ei ddaioni a llygru ei roddion, pan mae ei gariad yn cael ei droi yn hunanoldeb a ffrindiau'n troi'n elynion. yr hyn sy'n newid ei ddelwedd ac aflunio ein delwedd ni, pan gaiff drygioni ei alw'n ddaioni a'r diniwed yn cael eu lladd, a phan mae balchder ac ymffrost yn ein diraddio. Yn ei hanfod. mae Duw yn casáu pob dim sy'n tanseilio cariad, gan fod popeth sy'n diraddio cariad yn ein diraddio ni.


Allwn ni ddim bod â chariad go iawn os ydyn ni'n "caru popeth". Mae Duw yn ddisygog mewn cariad a chasineb, felly mae'n rhaid i ni ddysgu beth mae e'n ei garu ac yn ei gasáu.


Pa bethau sydd wedi achosi i'n diwylliant droi cariad yn dduw? Mae Duw yn caru pawb ond dydy o ddim yn caru popeth. Sut olwg sydd ar wirionedd yn dy fywyd di|?


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Adamant With Lisa Bevere

Beth yw gwirionedd? Mae diwylliant yn twyllo'i hun drwy feddwl mai afon yw gwirionedd sy'n llifo ar lwybr amser - craig yw e. Ynghanol môr tymhestlog o safbwyntiau, bydd y cynllun hwn yn dy helpu i dawelu'r enaid - gan r...

More

Hoffem ddiolch i John a Lisa Bevere am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://iamadamant.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd