Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: Mosaic'Sampl

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

DYDD 6 O 46

Adnabod anfodlonrwydd

Mae cyfnod y Grawys yn ein harwain drwy ofid dyddiau olaf Iesu cyn ei groesholiad. Wrth i ni ddarllen sgwrs bersonol yr Iesu gyda'i ddisgyblion yn yr oruwchystafell, gallwn ddychmygu orfoledd cyfeillgarwch law yn llaw â thristwch cael ei fradychu ymhen ychydig amser gan ffrind. Wrth wynebu tristwch arestio Iesu, cael ei roi ar brawf a'i guro dŷn ni'n crio gyda'r Cristnogion cyntaf hynny, yn ein hymgais i arbed Iesu heb ei gydnabod dŷn ni'n galaru law yn llaw a gwadiad Pedr. Mae'r Grawys - aberth dros bedwar deg niwrnod - yn un dull o nodi'r marwolaeth mae pechod wedi'i achosi yn ein bywydau. Wrth weld Iesu yn gorchfygu Satan pan gafodd ei brofi yn yr anialwch , dŷn ni'n cydnabod ein ddiffygion ein hunain a'n haberthau annigonol. Mae'r cyfnod hwn o "ymatal" yn ddull dwys o atgoffa ein hunain o'n hangen am Iesu Grist.

Am y Cynllun hwn

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

Mae'r defosiynau dyddiol hyn dros dymor 46 diwrnod y Grawys, sydd wedi'u haddasu o 'Holy Bible: Mosaic' yn cyfuno dyfyniadau, darlleniadau ac Ysgrythur i'th helpu i ganolbwyntio dy feddwl ar Grist. Pa un ai os wyt yn gwybod a'i peidio beth yw ystyr y Grawys neu dy fod wedi cadw at draddodiad y Grawys a'r calendr eglwysig dy holl fywyd, byddi'n gwerthfawrogi'r darlleniadau o'r Ysgrythur a chraffter defosiynol Cristnogion ar hyd a lled y byd ac mewn hanes drwyddi draw. Ymuna hefo ni a'r eglwys drwy'r byd i ffocysu ar Iesu drwy'r wythnosau sy'n arwain i fyny i'r Pasg.

More

Hoffem ddiolch i Tyndale House Publishers am eu haelioni drwy ddarparu defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: M osaic', ewch i: www.tyndale.com/p/holy-bible-mosaic-nlt/9781414322056